0:00:01 > 0:00:05- Yn yr hanner awr nesa i Lundain i - weld dillad dinesig Ceri Hughes.
0:00:06 > 0:00:09- A chawn wybod pam fod dychwelyd - o fyw yn y Dwyrain Pell...
0:00:09 > 0:00:11- ...wedi trawsnewid cwpwrdd - Owen Saer.
0:00:12 > 0:00:15- Ond yng Nghaerdydd y dechreuwn ni - efo Hannah Roberts.
0:00:16 > 0:00:18- Croeso i Cwpwrdd Dillad.
0:00:20 > 0:00:20- 889
0:00:20 > 0:00:22- 889
0:00:27 > 0:00:29- 889
0:00:34 > 0:00:36- 889
0:00:46 > 0:00:49- Actores ac athrawes - ydy Hannah Roberts.
0:00:49 > 0:00:52- Mae hi'n dotio ar ddillad.
0:00:52 > 0:00:54- Roedd hynny yn rhoi rheswm - perffaith i mi...
0:00:55 > 0:00:59- ..fynd i gael golwg ar rai eitemau - yn ei chypyrddau hi.
0:01:08 > 0:01:12- Beth oedd dillad yn ei olygu i chi - pan oeddech chi'n tyfu i fyny?
0:01:12 > 0:01:19- Ges i fy nghodi gyda ffasiwn - achos roedd Mam yn dressmaker.
0:01:19 > 0:01:23- Roedd hi'n gwneud fy nillad i - i gyd a dillad ei hunan.
0:01:23 > 0:01:26- Roedd Mam yn gonfensiynol iawn...
0:01:26 > 0:01:31- ...ac yn gobeithio fydden i'n tyfu - lan yn gonfensiynol ond wnes i ddim.
0:01:31 > 0:01:33- O'n i'n licio pethau gwahanol.
0:01:33 > 0:01:37- Os ydw i am fod yn onest...
0:01:37 > 0:01:40- ..o'n i'n licio tynnu sylw - at fy hunan.
0:01:50 > 0:01:53- Falle welech chi fi - yn Tesco rhyw ddiwrnod...
0:01:54 > 0:01:56- ..yn edrych fel shabwnen, - fel yn ni'n gweud yn Abertawe.
0:01:57 > 0:02:00- Edrych yn rel mess - achos dw i ddim wedi trafferthu.
0:02:01 > 0:02:04- Ac wedyn diwrnod arall, fydda - i'n codi a fydda i'n meddwl...
0:02:04 > 0:02:07- .."It's bordering - on the glamour today."
0:02:07 > 0:02:10- A fe dria i i edrych yn fwy teidi.
0:02:11 > 0:02:14- Wi'n credu bod e i wneud a'r ser...
0:02:14 > 0:02:17- ..achos wi'n gemini.
0:02:17 > 0:02:20- Mae deuoliaeth mewn gemini.
0:02:22 > 0:02:23- Yr efeilliaid a hwnna i gyd.
0:02:24 > 0:02:28- Wi yn credu bod 'na ddwy ochr - i fy nghymeriad i.
0:02:30 > 0:02:33- Oes 'na ddegawd - lle dach chi'n meddwl...
0:02:33 > 0:02:37- ..steil yr adeg yna - o'n i wirioneddol yn ei licio.
0:02:37 > 0:02:40- Wi'n dwlu ar ddillad y 40au.
0:02:40 > 0:02:43- A'r 20au hefyd.
0:02:43 > 0:02:48- Hefyd dillad Edwardian.
0:02:48 > 0:02:51- Mae steil arbennig i'r rheina. - Very elegant.
0:02:51 > 0:02:54- O'n i'n licio'r ensemble.
0:02:56 > 0:03:02- Roedd y wisg, yr accessories, - y bagiau a'r shoes i gyd yn mynd.
0:03:04 > 0:03:08- Roedd e'n fwy cyflawn na'r ffordd - yn ni'n gwisgo heddiw.
0:03:10 > 0:03:13- Mae hoffter Hannah o'r ensemble - yn dylanwadu yn gryf...
0:03:13 > 0:03:16- ..ar gynnwys ei chwpwrdd dillad.
0:03:16 > 0:03:21- Mae'r got yn rhan bwysig o hynny ac - mae un cwpwrdd yn llawn ohonyn nhw.
0:03:21 > 0:03:26- Y cotiau. Mae o'n gwneud synnwyr - yn fan hyn ar y ffordd allan.
0:03:26 > 0:03:28- Odi, mae e'n handi.
0:03:28 > 0:03:29- Mae dipyn o ddewis gynnoch chi.
0:03:29 > 0:03:31- Mae dipyn o ddewis gynnoch chi.- - Oes.
0:03:32 > 0:03:34- Yn fan hyn mae'r duffle coat.
0:03:34 > 0:03:39- O'dd un 'da fi drwy'r coleg a wi - ddim wedi gwisgo un oddi ar hynny.
0:03:39 > 0:03:42- O'n i ym Mharis dwy flynedd yn ol - a dyma ble roedd hon.
0:03:43 > 0:03:44- Roedd rhaid prynu hi.
0:03:44 > 0:03:46- Roedd rhaid prynu hi.- - Roedd hi'n gweiddi arnoch chi.
0:03:46 > 0:03:49- Fasach chi'n mynd i Baris - yn unswydd i siopa?
0:03:49 > 0:03:51- Na fasen.
0:03:51 > 0:03:55- Jyst digwydd bod yna - a methu dod yn ol heb ddim byd.
0:03:55 > 0:03:59- Mae'r got ffyr hyn - wedi bod 'da fi ers blynyddoedd.
0:03:59 > 0:04:04- Ac mae hon yn dod mas - pob gaeaf achos mae hi fel blanced.
0:04:05 > 0:04:06- Dydy hi ddim yn ffyr go iawn?
0:04:06 > 0:04:08- Dydy hi ddim yn ffyr go iawn?- - Nac ydy.
0:04:08 > 0:04:11- Ond mae 'da fi ffyr go iawn - yn fan'na.
0:04:11 > 0:04:13- Wna i ddangos e nawr.
0:04:15 > 0:04:19- Y peth yw, brynen i ddim ffyr nawr - ond mae e'n rhy hwyr i hwn.
0:04:19 > 0:04:22- Peth yw e i'w roi rownd eich gwddw.
0:04:23 > 0:04:25- Fasach chi'n dal i wisgo fo rwan?
0:04:25 > 0:04:29- Fasach chi'n dal i wisgo fo rwan?- - Baswn. Wi yn dal i'w wisgo fe.
0:04:29 > 0:04:31- Jyst fel hyn.
0:04:32 > 0:04:35- Mae 'na gynffon yn dal arno fo.
0:04:37 > 0:04:38- Mae hwnna'n mynd trwyddach chi, odi?
0:04:38 > 0:04:40- Mae hwnna'n mynd trwyddach chi, odi?- - Yndi!
0:04:58 > 0:05:01- Dw i'n teimlo yn gyfforddus - mewn hat.
0:05:01 > 0:05:03- Unrhyw fath o hat.
0:05:06 > 0:05:11- Mae hwn yn swnio'n beth od i'w - weud, ond mae hetiau yn siwtio fi.
0:05:11 > 0:05:13- Chi'n gwybod pam wi'n hoffi nhw?
0:05:13 > 0:05:19- Glywch chi lot o bobl yn gweud - "Wi'n mynd i brynu hat i briodas".
0:05:20 > 0:05:22- Dw i erioed wedi meddwl fel'na.
0:05:22 > 0:05:24- Os bryna i hat wisga i fe, - full stop!
0:05:32 > 0:05:36- Mae Hannah yn rhoi pwyslais mawr - ar fanylion y wisg.
0:05:36 > 0:05:38- A gwisgo'r dwylo yn rhan o hyn.
0:05:38 > 0:05:41- Drar y menyg yw hwn, Nia.
0:05:42 > 0:05:45- Mae 'na fenyg - o bob lliw a llun fan hyn.
0:05:45 > 0:05:47- A lledr y rhan fwya ohonyn nhw.
0:05:47 > 0:05:52- Maen nhw'n lledr meddal. Brynais i'r - rhan fwya ohonyn nhw yn Florence...
0:05:52 > 0:05:55- ..yn y marchnadoedd - achos bod nhw'n eitha rhad.
0:05:55 > 0:05:57- Felly mae'r rheina.
0:05:58 > 0:06:01- Mae rhai coch a pinc...
0:06:02 > 0:06:04- ..a cerise yn fan'na.
0:06:05 > 0:06:09- O'dd rhain yn boblogaidd yn y 50au - - o'n i'n gwisgo'r rhain i'r cwrdd.
0:06:11 > 0:06:12- Del. Rhai fel crochet.
0:06:12 > 0:06:14- Del. Rhai fel crochet.- - Mae lliw neis arnyn nhw.
0:06:14 > 0:06:17- Wedyn rhai yr un peth eto ond Mam-gu - sy'n biau'r rhain.
0:06:18 > 0:06:21- Neu Mam-gu oedd piau nhw. - Ac maen nhw'n eitha hen.
0:06:23 > 0:06:26- Pa law yw hon nawr?
0:06:26 > 0:06:29- Maen nhw'n ddel, dydyn?
0:06:29 > 0:06:34- Wnaeth Madonna wneud nhw'n ffasiynol - heb fysedd yn yr 80au.
0:06:34 > 0:06:37- Mae twll yn hwnna, - maen nhw mor hen.
0:06:38 > 0:06:39- Ond maen nhw'n feminine iawn.
0:06:52 > 0:06:54- Fedrwch chi ddisgrifio'r teimlad - dach chi'n gael...
0:06:54 > 0:06:59- ..o brynu rhywbeth dach chi - wirioneddol wedi dotio arno fo?
0:06:59 > 0:07:02- Gallaf, jyst mewn un gair - buzz.
0:07:03 > 0:07:06- Mae e'n gwneud person - i deimlo yn gret.
0:07:08 > 0:07:10- Mae e'n codi'ch calon chi.
0:07:11 > 0:07:14- Dw i am unrhyw beth - sy'n codi fy nghalon i.
0:07:17 > 0:07:20- Wi'n cofio actores eitha enwog - ar y teledu...
0:07:20 > 0:07:22- ..yn gofyn i fi yr un cwestiwn.
0:07:22 > 0:07:26- Wedodd hi bod e'n rhoi lot mwy - o buzz iddi na rhyw.
0:07:26 > 0:07:28- A wi'n teimlo yr un peth!
0:07:50 > 0:07:53- Saer coed a thiwtor iaith - ydy Owen Saer.
0:07:54 > 0:08:00- Mae o wedi byw am flynyddoedd lawer - yn Korea a Siapan a'r cyfnod yma...
0:08:00 > 0:08:05- ..a'r flwyddyn dychwelodd i Gymru i - fyw sy'n siapio ei gwpwrdd dillad o.
0:08:12 > 0:08:18- Fy atgofion cynta i oedd mynd - i siopa am ddillad gyda Mam.
0:08:18 > 0:08:20- Roedd yn gas 'da fi fynd.
0:08:20 > 0:08:25- Dw i ddim yn cofio gweld dilledyn - a meddwl dw i'n licio hwn.
0:08:25 > 0:08:26- Dw i jyst yn cofio....
0:08:26 > 0:08:30- .."Dw i ddim eisiau bod yma, dw i - ddim eisiau gwisgo'r pethau 'ma!"
0:08:31 > 0:08:35- O'n i'n arfer dweud wrth Mam yn y - Gymraeg "Dw i ddim yn licio hwn".
0:08:35 > 0:08:38- Ac roedd Mam yn dweud yn Saesneg - "You don't like it"...
0:08:38 > 0:08:41- ..yn uchel fel bod pobl y siop - yn clywed.
0:08:42 > 0:08:46- Don nhw ddim yn brofiadau arbennig - o gadarnhaol.
0:08:56 > 0:08:59- Yn Siapan a Korea - mae ganddyn nhw wisg draddodiadol.
0:08:59 > 0:09:04- Bues i mewn - arddangosfa neu amgueddfa...
0:09:04 > 0:09:06- ..ble o'ch chi'n gweld kimonos.
0:09:06 > 0:09:09- O'n nhw werth miloedd ar filoedd!
0:09:10 > 0:09:14- O'n nhw'n dweud wrtho i, - taw dyna oedd yr eiddo.
0:09:15 > 0:09:18- Yn y wlad hon yn ni'n meddwl - am ein cartrefi fel eiddo.
0:09:18 > 0:09:23- Ond fyddai kimono - yn costio 100,000 falle.
0:09:25 > 0:09:31- Achos fod cymaint o ddaeargrynfeydd - a Tsunami ac ati....
0:09:31 > 0:09:35- ..doedd y cartref ddim yn rhywbeth - parhaol allech chi ddibynnu arno fe.
0:09:35 > 0:09:39- Ond roedd y Kimono yn rhywbeth - allech chi gludo efo chi.
0:09:39 > 0:09:42- Roedd y feddylfryd - yn wahanol yn fan'na.
0:09:57 > 0:10:00- Dyma ni. - Croeso i'r boudoir, fel petai.
0:10:00 > 0:10:02- Dyma dy boudoir di.
0:10:03 > 0:10:05- A'r rhain ydy dy kimonos di?
0:10:05 > 0:10:07- A'r rhain ydy dy kimonos di?- - Anghywir! Nid kimonos mo'r rhain.
0:10:08 > 0:10:11- Mae kimono yn rhywbeth mwy - sylweddol.
0:10:11 > 0:10:13- Yukata yw'r gair.
0:10:14 > 0:10:15- Yukata.
0:10:15 > 0:10:17- Yukata.- - Dyna ni.
0:10:17 > 0:10:20- Mae'r rhain yn rhywbeth fyddech - chi'n wisgo yn draddodiadol...
0:10:21 > 0:10:25- ..ar ol cael bath neu mewn - gwesty traddodiadol yn Siapan.
0:10:26 > 0:10:27- Triwn ni nhw.
0:10:27 > 0:10:29- Rhai ar gyfer y dynion yw'r rhain.
0:10:30 > 0:10:33- Fasai rhai i'r merched - yn fwy lliwgar?
0:10:33 > 0:10:35- Mae gyda ni rai yn fan'na.
0:10:37 > 0:10:39- Mae'r rheina yn neisiach!
0:10:40 > 0:10:44- Pan ddychwelodd Owen i Gymru - yn 2001...
0:10:44 > 0:10:48- ..roedd o'n teimlo fod angen help - arno efo'i ddelwedd.
0:10:48 > 0:10:51- Felly, aeth o i weld arbenigwyr - steil a lliw.
0:10:53 > 0:10:57- Sonia wrtha i am beth ddigwyddodd - yn ystod yr ymgynghoriad...
0:10:57 > 0:11:01- ..efo'r arbenigwraig lliw a steil.
0:11:01 > 0:11:03- I ddechrau o'n nhw'n edrych ar liw.
0:11:03 > 0:11:09- Lliw eich croen, lliw eich llygaid - chi, lliw naturiol eich gwallt.
0:11:09 > 0:11:13- Ac o'n nhw'n dangos swatches - o wahanol liwiau nesa atoch chi.
0:11:13 > 0:11:15- Ar ol trafod y lliw...
0:11:16 > 0:11:20- ..o'n nhw'n symud 'mlaen i edrych - ar eich personoliaeth a'ch steil.
0:11:20 > 0:11:24- O'n nhw edrych ar siap eich corff, - siap eich wyneb chi.
0:11:24 > 0:11:27- Wedyn yn seiliedig ar hyn...
0:11:28 > 0:11:32- ..maen nhw'n pennu steil i chi.
0:11:32 > 0:11:35- Felly dyma'r lliwiau - ti'n cael eu gwisgo, mewn ffordd.
0:11:36 > 0:11:41- Ie. Mae hwn yn ganllaw a fel ti'n - gweld, mae hwn yn eitha agos.
0:11:43 > 0:11:46- Yndi.
0:11:46 > 0:11:49- Mae'r rheina i gyd yn adlewyrchu...
0:11:49 > 0:11:52- Mae'r rheina i gyd yn adlewyrchu...- - Maen nhw fwy neu lai yr un peth.
0:11:53 > 0:11:57- Mae crys yn bwysig achos bod e - mor fawr ac yn nes at eich wyneb.
0:11:57 > 0:12:00- Felly mae'n bwysig - bod chi'n cael hwnna yn gywir.
0:12:00 > 0:12:05- 'Sdim cymaint o ots am bethau eraill - fel hances neu eich trwser chi.
0:12:05 > 0:12:10- Ond mae'n bwysig bod chi'n trio - cael lliw sy'n siwtio chi orau...
0:12:10 > 0:12:12- ..yn agos at eich wyneb chi.
0:12:12 > 0:12:15- Felly dw i wedi gwneud yn siwr - bod fi'n cael y rhain yn iawn.
0:12:16 > 0:12:19- Ydy'r un yn wir am liw y teis?
0:12:19 > 0:12:20- Ydy'r un yn wir am liw y teis?- - Ydi.
0:12:21 > 0:12:24- Eto, maen nhw'n eitha prescriptive.
0:12:24 > 0:12:29- Maen nhw'n dweud unrhyw beth - gyda streipiau mawr...
0:12:29 > 0:12:31- ..i chi osgoi.
0:12:32 > 0:12:34- Alla i wneud hon, jyst.
0:12:34 > 0:12:35- Ond ddim byd mwy?
0:12:35 > 0:12:36- Ond ddim byd mwy?- - Na.
0:12:51 > 0:12:56- Ar gyfer dilyn y lliw mae'r rhain - yn bethau bach heb eu hail.
0:12:57 > 0:12:59- Dim ond ryw 2 yr un ydyn nhw.
0:12:59 > 0:13:04- Felly bryni di ddilledyn mewn lliw - ti ddim i fod i wisgo...
0:13:05 > 0:13:06- ..ac wedyn eu llifo nhw?
0:13:06 > 0:13:09- ..ac wedyn eu llifo nhw?- - Gan amlaf, rhai gwynion.
0:13:09 > 0:13:12- Mae 'na hanes tu ol i'r crys hyn.
0:13:12 > 0:13:18- Crys gwyn hyfryd oedd hwn. - Ac wedyn ges i ddamwain.
0:13:18 > 0:13:21- Wnes i roi'r crys yn y peiriant - golch gyda beiro.
0:13:21 > 0:13:23- O, na!
0:13:23 > 0:13:25- O, na!- - Strywa'r beiro, strywa'r crys.
0:13:25 > 0:13:27- Feddyliais i, - dw i ddim yn mynd i daflu'r crys.
0:13:27 > 0:13:29- Mae o'n grys drud.
0:13:30 > 0:13:34- Felly, liwiais i'r crys - ac mae o wedi gweithio.
0:13:47 > 0:13:50- Roedd hi'n help - ac yn rhyddhad cael rheolau...
0:13:51 > 0:13:54- ..achos mae cymaint o siopau dillad - yng Nghaerdydd.
0:13:54 > 0:13:57- Chi'n mynd i mewn ac mae gwahanol - liwiau, steil a phris...
0:13:57 > 0:13:58- ..a chi'n meddwl...
0:13:59 > 0:14:02- .."Beth wi'n mynd i brynu?" oni bai - bod chi'n mwynhau prynu dillad.
0:14:02 > 0:14:05- A do'n i ddim, fel y cyfryw. - Gwaith oedd e yn hytrach na phleser.
0:14:06 > 0:14:10- So mae e'n help i chi - wneud penderfyniadau yn gyflym.
0:14:25 > 0:14:25- 889
0:14:25 > 0:14:27- 889- - 889
0:14:35 > 0:14:38- Mae Ceri Hughes wedi gweithio - yn Llundain...
0:14:39 > 0:14:42- ..fel ymgynghorydd rheolaeth busnes - ers 10 mlynedd.
0:14:42 > 0:14:45- Efo'i siwtiau slic - a'i dillad o'r brifddinas...
0:14:45 > 0:14:47- ..yn byrlymu o'i chypyrddau.
0:14:51 > 0:14:55- Mae 'na bethau da am fywyd Llundain - ac mae 'na bethau drwg.
0:14:55 > 0:14:57- Weithau dw i'n ysu i fynd adra.
0:14:57 > 0:15:01- Ond yn gyffredinol, mae 'na gymaint - i'w wneud ac mae o'n lle prysur...
0:15:01 > 0:15:05- ..mae fy ffrindiau i yma. - Mae o'n ffantastig!
0:15:17 > 0:15:22- Faset ti'n deud fod byw yn Llundain - wedi siapio neu ddylanwadu...
0:15:22 > 0:15:24- ..ar gynnwys dy gwpwrdd dillad di?
0:15:25 > 0:15:27- I'r raddau, baswn.
0:15:27 > 0:15:31- Dw i'n meddwl bod chdi'n gwisgo - dillad gwahanol yn y ddinas...
0:15:31 > 0:15:35- ..jyst oherwydd fod pawb arall - yn gwisgo'r math yna o ddillad.
0:15:35 > 0:15:40- A hefyd fy ngwaith i. Mae hynny wedi - dylanwadu ar beth dw i'n wneud.
0:15:40 > 0:15:43- Gwaith swyddfa, - gwisg ffurfiol - y math yna o beth.
0:15:43 > 0:15:45- Mae fy wardrobe i - yn eitha gwahanol...
0:15:45 > 0:15:49- ..rhwng y dillad gwaith - a dillad fy amser sbar.
0:15:50 > 0:15:53- Fel dynes sy'n gweithio - ym myd busnes...
0:15:53 > 0:15:59- ..wyt ti'n gwneud ymdrech bod - dy siwt yn un sy ddim yn rhywiol?
0:15:59 > 0:16:02- Yn isel neu yn fyr iawn?
0:16:02 > 0:16:07- Yn sicr, yndw. Mae'r byd busnes - dal yn lle gwrywaidd iawn.
0:16:07 > 0:16:12- Ac er bod hynny wedi newid, faswn i - ddim eisiau bod yn y gwaith...
0:16:15 > 0:16:18- ..yn denu sylw - am y rhesymau anghywir.
0:16:19 > 0:16:22- Yndi, mae hynna yn beth - faswn i'n meddwl amdano fo...
0:16:22 > 0:16:26- ..ac yn gwneud yn siwr bod - fi'n eitha parchus yn y gwaith.
0:16:53 > 0:16:57- Nia, dyma fy llofft wely i - a dyma fy nghypyrddau dillad i.
0:16:58 > 0:16:59- Gawn ni sbio yn hon yn gynta.
0:17:00 > 0:17:02- Hwn ydy cwpwrdd Ceri.
0:17:02 > 0:17:04- Fy nillad personol i.
0:17:04 > 0:17:06- Gawn ni sbio yn y llall i ddechrau.
0:17:07 > 0:17:08- Dillad gwaith sy'n fan'na.
0:17:08 > 0:17:11- Dillad gwaith sy'n fan'na.- - Dillad gwaith sy'n fan hyn.
0:17:12 > 0:17:15- Mae hon lot yn llai diddorol - na'r cwpwrdd arall.
0:17:15 > 0:17:16- Does 'na ddim cymaint o liw.
0:17:16 > 0:17:19- Does 'na ddim cymaint o liw.- - Na, does 'na ddim.
0:17:19 > 0:17:22- Gwahanol siwtiau - maen nhw i gyd - yn edrych yr un fath o fan hyn.
0:17:23 > 0:17:26- Os wna i ddangos ambell i siwt.
0:17:26 > 0:17:30- Hon ydy'r siwt gynta - wnes i brynu erioed.
0:17:30 > 0:17:32- So 10 mlynedd yn ol.
0:17:33 > 0:17:36- Dw i'n cofio prynu'r siwt yma. - Mynd efo dwy ffrind i Hobbs.
0:17:37 > 0:17:40- Nhw'n eistedd ar y soffa - yn ymgynghori ar y siwtiau.
0:17:40 > 0:17:43- Nhw ddewisiodd fy siwt gynta i.
0:17:47 > 0:17:51- Ac mae gen i siwtiau eraill.
0:17:51 > 0:17:56- Mae hon yn dod o Paul Smith. - Mae hon wedi para yn hir.
0:17:57 > 0:18:00- Ond fel ti'n gweld, - maen nhw yn eitha serious.
0:18:00 > 0:18:03- Wedi eu teilwra yn dda.
0:18:03 > 0:18:08- Mae 'na bethau mymryn yn wahanol. - Mae'r bwyth yna ar hyd fan'na.
0:18:08 > 0:18:11- Pethau bach - i wneud pethau yn wahanol.
0:18:11 > 0:18:12- Ac amrywiaeth bach o liwiau.
0:18:12 > 0:18:14- Ac amrywiaeth bach o liwiau.- - Ychydig bach.
0:18:15 > 0:18:19- Lot neisach ydy cael siwtiau - dw i ddim yn eu gwisgo i'r gwaith.
0:18:19 > 0:18:22- Mae hon yn un o fy ffefrynnau i.
0:18:22 > 0:18:25- Wnes i brynu hon a'i gwisgo hi - i briodasau.
0:18:25 > 0:18:28- Ac wedyn sylweddoli 'mod i'n - gwisgo hon i briodas pawb...
0:18:29 > 0:18:31- ..a bod y lluniau i gyd yn - dangos fi'n gwisgo'r siwt yma.
0:18:31 > 0:18:34- Dw i wedi prynu mwy o dillad i fynd - i briodasau erbyn hyn.
0:18:34 > 0:18:39- Beth sy'n gret efo siwt ydy ti'n - newid y top o dani ac mae'n iawn.
0:18:39 > 0:18:42- Clasur i'w chael ym mhob cwpwrdd.
0:18:46 > 0:18:49- Yn ogystal a'r siwtiau gwaith, - mae gan Ceri ochr feddalach.
0:18:50 > 0:18:53- Efo llawer o sgidiau, - bagiau a gwisgoedd glam iawn...
0:18:53 > 0:18:56- ..ar gyfer nosweithiau allan - efo'r genod.
0:19:22 > 0:19:26- Dw i wedi bod yn hoff o ddillad - erioed, licio pethau creadigol.
0:19:27 > 0:19:32- Pan o'n i'n tyfu i fyny o'n i'n - gwneud lot o ganu a pherfformio.
0:19:34 > 0:19:37- Ond hefyd roedd y diddordeb wedi dod - pan o'n i'n ifanc.
0:19:37 > 0:19:40- Roedd Mam wedi mynd a fi i Clinique.
0:19:40 > 0:19:44- A dw i'n cofio mwynhau cael fy - lipstick cynta a'r make-up cynta...
0:19:44 > 0:19:47- ..a dysgu ei roi o 'mlaen yn iawn.
0:19:49 > 0:19:52- So diolch Mam am wneud hynna.
0:20:05 > 0:20:07- Y peth cynta dw i'n sylwi - munud ti'n agor y cwpwrdd...
0:20:08 > 0:20:11- ..yw bod hi mor daclus. - Sbia ar y rhain i gyd wedi'u plygu.
0:20:11 > 0:20:14- Taset ti'n dod i weld fi - - popeth wedi ei wthio i mewn.
0:20:15 > 0:20:19- Ac yn eu blociau lliw hefyd. - Wyt ti'n berson fel'na beth bynnag?
0:20:19 > 0:20:24- Os ydy fan hyn yn daclus - mae fy mywyd i'n eitha taclus.
0:20:24 > 0:20:27- Ac os ydy fy mywyd i'n fwy bler, - mae fan hyn yn fler.
0:20:27 > 0:20:31- Os dw i'n tacluso fan hyn dw i'n - teimlo bod fi'n tacluso 'mywyd.
0:20:31 > 0:20:32- Ydy hynna'n od?
0:20:32 > 0:20:35- Ydy hynna'n od?- - Nac ydy, ddim o gwbl.
0:20:35 > 0:20:37- Ac mae'n rhaid i fi ddeud...
0:20:38 > 0:20:41- ..mae hyd yn oed dy nicyrs a dy - fras di mewn blociau o liw!
0:20:42 > 0:20:46- Wyt ti'n un o'r bobl 'ma sy 'mond - yn gwisgo bra a nicyrs sy'n mynd?
0:20:46 > 0:20:49- Rhaid gwneud.
0:20:49 > 0:20:52- Symud ymlaen.
0:20:52 > 0:20:55- Wnawn ni adael y rheina yn fan'na - a symud ymlaen at y dillad.
0:20:55 > 0:20:57- Mae hon yn gret.
0:20:57 > 0:20:59- Mae hon yn un o'n ffefrynnau i.
0:21:00 > 0:21:02- Dw i'n cofio meddwl bod hi - mor drawiadol.
0:21:02 > 0:21:07- Ac yn aml dw i'n gwisgo hi ac mae - pobl yn gofyn "lle gest ti honna?"
0:21:09 > 0:21:16- Mae dy ddillad di yr ochr hyn, yng - nghwpwrdd Ceri, yn eitha benywaidd.
0:21:16 > 0:21:18- Lot o liwiau.
0:21:18 > 0:21:22- Mae 'na wahaniaeth mawr - rhwng y ddwy.
0:21:22 > 0:21:27- Mae'n symptomatig. Dw i'n licio bod - yn wahanol i sut ydw i yn y dydd.
0:21:27 > 0:21:30- Pethau sparkley.
0:21:30 > 0:21:34- Beth am dy fywyd cymdeithasol di yn - Llundain? Ti'n gweithio oriau hir?
0:21:34 > 0:21:37- Ti'n cael cyfle i fynd allan efo - criwiau gwaith?
0:21:37 > 0:21:41- Mae'n dibynnu. Gan bod fi'n - gweithio ar brosiectau...
0:21:42 > 0:21:46- ..mae ambell i brosiect yn hawdd - a ti'n gallu mynd allan tipyn.
0:21:46 > 0:21:51- Mae rhai lle dw i'n gweithio oriau - hir a llai o gyfle i fynd allan.
0:21:51 > 0:21:53- 'Sgen ti rywbeth arall o Whistles?
0:21:53 > 0:21:55- 'Sgen ti rywbeth arall o Whistles?- - Mae hanner y wardrobe o Whistles.
0:21:56 > 0:21:58- Mae hon yn dod Whistles.
0:21:58 > 0:22:02- Steil eitha Missoni, - ac eitha bohemian...
0:22:03 > 0:22:05- ..efo'r fringe 'ma yn fan hyn.
0:22:38 > 0:22:42- Taswn i'n rhoi 1,000 i chdi, - i ble faset ti'n mynd i siopa...
0:22:42 > 0:22:44- ..a beth faset ti'n brynu?
0:22:44 > 0:22:48- Taswn i'n gorfod prynu un peth, - faswn i'n prynu siaced lledr...
0:22:48 > 0:22:51- ..o Nicole Farhi.
0:22:51 > 0:22:57- Wnes i brynu siaced ddrud ac mi - gaeth hi ei dwyn o'r restaurant...
0:22:58 > 0:23:02- ..lle o'n i ac o'n i'n sicr - mod i'n cael fy nghosbi gan Dduw...
0:23:02 > 0:23:06- ..am wario cymaint o bres - ar siaced yn y lle cynta.
0:23:15 > 0:23:20- Tasai rhaid i ti ddisgrifio - dy hoff ddilledyn di...
0:23:20 > 0:23:26- ..fel ffrind i ti, sut faset ti'n - disgrifio ei gymeriad o?
0:23:29 > 0:23:32- Faswn i'n disgrifio fo fel...
0:23:32 > 0:23:35- ..rhywbeth sy'n ddibynadwy.
0:23:35 > 0:23:38- Rhywbeth faswn - i'n teimlo'n dda ynddo fo.
0:23:38 > 0:23:42- Rhywbeth sy ychydig yn wahanol - a fasai neb arall yn wisgo.
0:23:42 > 0:23:46- So rhywun sy ychydig bach yn wahanol - ond yn ddibynadwy.
0:24:14 > 0:24:16- Is-deitlwyd gan ACEN ar gyfer S4C