Dan a Matthew Glyn

Download Subtitles

Transcript

0:00:00 > 0:00:00- Isdeitlau

0:00:00 > 0:00:02- Isdeitlau- - Isdeitlau

0:00:07 > 0:00:09- Isdeitlau

0:00:14 > 0:00:16- Isdeitlau

0:00:23 > 0:00:25- Helo 'na a chroeso i'r rhaglen.

0:00:25 > 0:00:30- Dw i yng Nghaerdydd i sgwrsio efo - dau frawd sy wedi'u geni a'u magu...

0:00:30 > 0:00:34- ..yn y brifddinas, - Daniel a Matthew Glyn.

0:00:39 > 0:00:41- Helo, fy enw i yw Daniel Glyn.

0:00:41 > 0:00:46- Rydw i'n gomediwr stand-yp - a fi'n sgwennu jocs a llyfrau plant.

0:00:46 > 0:00:50- Fi wedi cyflwyno rhaglenni plant - pan o'n i'n deneuach.

0:00:50 > 0:00:55- Hefyd rhaglenni prosiect, - interview efo pobl fel Rhys Ifans.

0:00:56 > 0:00:58- Matthew Glyn Jones ydw i.

0:00:58 > 0:01:03- Dw i'n frawd i Dan, yn awdur, ac yn - sgwennu dramau fel Gwaith/Cartref.

0:01:04 > 0:01:09- A rhaglenni comedi i blant fel - Y Rhaglen Wirion 'Na a Hotel Eddie.

0:01:09 > 0:01:13- Amser maith yn ol, mi o'n i - mewn band o'r enw Hanner Pei.

0:01:13 > 0:01:15- Roedden ni'n arbenigo mewn ffync.

0:01:21 > 0:01:24- Dyma ni yng Nghlwb Ifor.

0:01:24 > 0:01:26- Beth sy'n dod a ni i fan hyn?

0:01:27 > 0:01:30- Wel, yn amlwg yn tyfu i fyny - yng Nghaerdydd...

0:01:31 > 0:01:35- ..os oeddet ti'n siarad Cymraeg, - roedd 'na wahanol ganolfannau.

0:01:36 > 0:01:39- Yr Urdd yn Conway Road, - a gwnaeth Clwb Ifor Bach agor.

0:01:39 > 0:01:43- Ar y pryd roedd o'n lle - super duper Cymraeg.

0:01:44 > 0:01:49- O't ti i fod yn aelod, ond os - o't ti'n gallu siarad Cymraeg...

0:01:49 > 0:01:52- ..bydden nhw'n gadael ti i mewn.

0:01:52 > 0:01:56- Ar ddiwedd y noson, roedd rhaid - i bawb ganu Hen Wlad Fy Nhadau.

0:01:56 > 0:02:00- Roedd y Manic Street Preachers - wedi chwarae fan hyn.

0:02:00 > 0:02:04- Y line up oedd Manic Sreet - Preachers, Tynal Tywyll...

0:02:05 > 0:02:09- ..a Hanner Pei ar waelod y bil, - wnaeth y Manics erioed droi i fyny.

0:02:09 > 0:02:13- Ond roedd Hanner Pei - yn yr un frawddeg a'r Manics.

0:02:13 > 0:02:15- Alla i ddim dychmygu dau fand...

0:02:15 > 0:02:17- Alla i ddim dychmygu dau fand...- - Where are they now?

0:02:18 > 0:02:24- Felly Caerdydd wedi chwarae - rhan bwysig yn eich magwraeth chi.

0:02:24 > 0:02:27- Dan, ti'n dal yn byw yng Nghaerdydd.

0:02:27 > 0:02:31- A Math, chdithau ddim - wedi mynd yn rhy bell.

0:02:31 > 0:02:35- Mae'ch gwreiddiau chi - yn ddwfn iawn yng Nghaerdydd.

0:02:37 > 0:02:42- Dw i erioed wedi symud yn bellach - o Gaerdydd na rhyw bum milltir.

0:02:43 > 0:02:48- Ti wedi byw mewn nifer o wahanol - wledydd a llefydd hefyd.

0:02:49 > 0:02:51- Ond o hyd wedi dod yn ol.

0:02:51 > 0:02:55- Beth sy'n neis amboutu Caerdydd...

0:02:56 > 0:03:01- ..ydy bod o'n ddigon bach, - os wyt ti o'ma neu'n berson dwad...

0:03:01 > 0:03:05- ..ti'n teimlo rhyw ownership - ar y lle.

0:03:05 > 0:03:07- Mae'n lle gret i fagu plant.

0:03:07 > 0:03:10- Dyn ni'n dadau nawr - - ddim efo'n gilydd!

0:03:10 > 0:03:13- Ac mae o'n lle gret i fagu plant.

0:03:13 > 0:03:17- Dan, chdi ydy'r hynaf. - Faint sy rhyngddoch chi?

0:03:17 > 0:03:17- Tair blynedd.

0:03:17 > 0:03:19- Tair blynedd.- - A hanner.

0:03:19 > 0:03:23- Dw i'n siwr bod straeon difyr - dros y blynyddoedd.

0:03:23 > 0:03:26- O'n i'n arfer bwlio Math lot.

0:03:28 > 0:03:32- O'n i wrth fy modd efo Lego, - a bydden i'n treulio oriau...

0:03:32 > 0:03:36- ..yn adeiladu - y llongau gofod anhygoel yma.

0:03:38 > 0:03:41- A bydden i'n dangos e, - fi ddim yn gwybod pam.

0:03:41 > 0:03:46- O'n i eisiau i Dan weld hwn - a dweud pa mor dda oedd e.

0:03:46 > 0:03:49- A byddai Dan yn dweud, - "Mae hwn yn ardderchog."

0:03:50 > 0:03:55- Sefyll ar dop y grisiau a dweud, - "Yw e'n hedfan?" a'i daflu fe.

0:03:55 > 0:03:57- Roedd e'n deilchion.

0:03:57 > 0:04:03- Dach chi wedi chwarae lot o driciau - ar eich gilydd dros y blynyddoedd.

0:04:03 > 0:04:05- Yn agos fel dau frawd, dw i'n siwr.

0:04:06 > 0:04:08- Beth wnaeth ddigwydd...

0:04:08 > 0:04:13- ..gwnaeth ein mam ni farw - yn ifanc iawn, dim ond yn 46.

0:04:14 > 0:04:16- O'n i'n 16.

0:04:16 > 0:04:21- Roedd y deinameg 'na o'r brawd mawr - yn bwlio, roedd rhaid tyfu i fyny.

0:04:21 > 0:04:27- Os oes rhywbeth trist yn digwydd, - mae 'na oleuni, gwnaethon ni glosio.

0:04:27 > 0:04:31- Gwnaeth Dad farw - cwpl o flynyddoedd ar ol hynny.

0:04:31 > 0:04:35- Ti'n sylweddoli - mai dyna'r unig deulu sydd 'da ti.

0:04:35 > 0:04:39- Roedd e'n bwysig bod ni'n agos - achos dyna i gyd oedd 'da ni.

0:04:39 > 0:04:41- Doedd dim dewis.

0:04:41 > 0:04:45- Wnaethon ni fondio - dros gemau cyfrifiadurol.

0:04:45 > 0:04:48- Ges i ZX81 efo 1K o memory - arno fe...

0:04:49 > 0:04:50- ..pan o'n i'n wyth.

0:04:50 > 0:04:53- Daeth y consoles allan - a'r Nintendos.

0:04:53 > 0:04:58- Un o'r jobs cynhara oedd sgwennu - a bod yn rhan o dim cynhyrchu...

0:04:58 > 0:05:03- ..ac actio a chyflwyno rhaglen o'r - enw Mega, computer game review show.

0:05:06 > 0:05:09- Roedden ni ar tua 400 yr wythnos - am dri mis.

0:05:10 > 0:05:14- Dyna i gyd o'n ni'n wneud - oedd chwarae gemau a gwneud reviews.

0:05:18 > 0:05:19- Fi ydy Bil.

0:05:19 > 0:05:21- Fi ydy Bil.- - A fi ydy Dil.

0:05:21 > 0:05:22- Helo!

0:05:22 > 0:05:26- Mae datblygiadau yn y byd - chwyldroadol yn dod wrthon ni...

0:05:26 > 0:05:27- ..i chi!

0:05:27 > 0:05:33- Mae gwyddonwyr, gan ddefnyddio - technoleg yn gallu tyfu clustiau.

0:05:33 > 0:05:35- Pardwn? Ha ha!

0:05:35 > 0:05:41- Dyma pryd gwnaethon ni conscious - decision i beidio cyd-gyflwyno.

0:05:41 > 0:05:45- Gwnaeth pawb fynd, - "It's the chuckle brothers!"

0:05:45 > 0:05:47- Dim cyd-gyflwyno eto!

0:05:48 > 0:05:50- Ar y pryd roedd y Brodyr Bach.

0:05:50 > 0:05:52- Y Brodyr Llai!

0:05:53 > 0:05:55- Ti jyst yn mynd, "Na!"

0:05:56 > 0:05:58- Ond beth wnaeth ddigwydd...

0:05:58 > 0:06:04- ..wnaethon ni ddechrau sgwennu - ar wahan a gwneud rhaglenni plant.

0:06:04 > 0:06:08- O'n ni'n diweddu i fyny - yn trio am yr un jobsys.

0:06:08 > 0:06:12- Ti wnaeth fynd, "Pam na wnawn ni - roi'r ddau at ei gilydd?"

0:06:13 > 0:06:17- Ro'n ni ryw 12 mlynedd - yn sgwennu efo'n gilydd.

0:06:17 > 0:06:22- Roedden ni'n sgwennu bob dydd - am 12 mlynedd - jocs ac yn y blaen.

0:06:24 > 0:06:28- Pan o'n ni'n tyfu lan - roedd ein tad yn ffan mawr o gomedi.

0:06:28 > 0:06:32- Gwneud i ni watsio gwaith - Mel Brooks a John Cleese a Python.

0:06:33 > 0:06:36- O'n i'n ymwybodol bod - bod yn gomediwr yn swydd.

0:06:36 > 0:06:41- Es i i weld Freddie Starr a mwynhau - gweld un person yn malu awyr.

0:06:42 > 0:06:45- Gwnes i benderfynu bod yn stand-yp.

0:06:45 > 0:06:49- Gwylio arwyr fel David Baddiel, - Rob Newman...

0:06:49 > 0:06:51- ..Robin Williams, Eddie Murphy.

0:06:52 > 0:06:56- Fi eisiau go, ac un diwrnod - fi'n mynd i'w gael o'n iawn.

0:06:56 > 0:06:58- Mr Daniel Glyn!

0:06:58 > 0:06:59- CYMERADWYAETH

0:07:00 > 0:07:02- Thank you.

0:07:04 > 0:07:10- Dan ni yn Abertawe, tu allan i glwb - The Scene. Beth sy'n mynd ymlaen?

0:07:10 > 0:07:15- Dw i'n gwneud gymaint o stand-yp - ag y medra i, dair gwaith y mis!

0:07:15 > 0:07:17- Dw i'n ddiog iawn.

0:07:17 > 0:07:22- Mae hi wedi cymryd chwarter canrif i - wneud y math yma o gig, yn Saesneg.

0:07:23 > 0:07:28- Bydda i'n gwneud cwpl o jocs, - son am lot o 'mhrofiadau Cymraeg i.

0:07:28 > 0:07:33- Stwff am Glantaf, son am Glwb - Ifor Bach, ond ei wneud e'n Saesneg.

0:07:33 > 0:07:37- Mae'n Gymreig iawn, - ond yn yr iaith Saesneg.

0:07:38 > 0:07:43- O ran stand-yp, ti'n perfformio mwy - yn y Saesneg neu yn y Gymraeg?

0:07:43 > 0:07:46- Mae o'n 50/50. Fifty pumdeg!

0:07:47 > 0:07:52- Hanner a hanner, mae 'na ddigon - o waith Cymraeg a Saesneg mas yna.

0:07:52 > 0:07:56- Mae o'n fwy o sialens - i'w wneud o yn Saesneg.

0:07:56 > 0:07:57- Yn Gymraeg mae llai o gystadleuaeth.

0:07:57 > 0:07:59- Yn Gymraeg mae llai o gystadleuaeth.- - Wyt ti'n mynd yn nerfus o gwbl?

0:08:00 > 0:08:01- Ydw, wastad.

0:08:01 > 0:08:06- Wnaeth e gymryd 10 mlynedd i fi - stopio bod yn sic cyn gwneud gig.

0:08:06 > 0:08:09- Fi wedi stopio gwneud hwnna nawr.

0:08:09 > 0:08:14- Os wyt ti'n dweud - bod ti'n mynd i event...

0:08:14 > 0:08:16- ..mae ffon ti'n atgoffa ti.

0:08:16 > 0:08:19- Gwnaeth hwnna ddigwydd - rhyw bum munud yn ol!

0:08:23 > 0:08:27- Give us a shout if you've - been to Clwb Ifor Bach.

0:08:27 > 0:08:31- I did something terrible - when I was young in Clwb Ifor.

0:08:31 > 0:08:32- Don't judge me.

0:08:32 > 0:08:38- In Clwb my mate said, "Let's go - to the bogs, everybody's doing it."

0:08:38 > 0:08:41- There was a bloke in the cubicle.

0:08:42 > 0:08:46- The three of us stuffed - ourselves in, locked the door...

0:08:46 > 0:08:51- ..and in Clwb Ifor Bach - we spoke English - we did.

0:08:52 > 0:08:53- Diolch yn fawr.

0:08:54 > 0:08:58- Mae'r gig newydd orffen - a dyma fo, Mr Glyn ei hun.

0:08:59 > 0:08:59- Noswaith dda.

0:08:59 > 0:09:01- Noswaith dda.- - Iawn, Dan?

0:09:01 > 0:09:03- Wnest di ddim cwympo i gysgu?

0:09:03 > 0:09:04- Wnest di ddim cwympo i gysgu?- - Naddo.

0:09:04 > 0:09:04- Llongyfarchiadau.

0:09:04 > 0:09:06- Llongyfarchiadau.- - Diolch yn fawr.

0:09:06 > 0:09:06- Sut aeth hi?

0:09:06 > 0:09:09- Sut aeth hi?- - Roedd hi'n boeth i mewn yna.

0:09:09 > 0:09:14- Roedd o'n waith caled, a fi wastad - yn teimlo'n od yn siarad Saesneg.

0:09:14 > 0:09:15- Gwnaethon nhw chwerthin.

0:09:15 > 0:09:17- Gwnaethon nhw chwerthin.- - Oedda chdi'n hapus?

0:09:17 > 0:09:23- Achos bod fi o Gaerdydd ti'n meddwl - bod pobl Abertawe yn mynd i ladd ti.

0:09:23 > 0:09:25- 'Sneb wedi dwyn y car - ideal.

0:09:25 > 0:09:28- Aeth ambell joc i lawr yn well - na'i gilydd?

0:09:28 > 0:09:30- Y joc am rywun yn dwyn fy nghar i...

0:09:30 > 0:09:33- Y joc am rywun yn dwyn fy nghar i...- - Wnaeth neb chwerthin. Awkward.

0:09:34 > 0:09:37- Hashtag awkward! Ond noson neis.

0:09:37 > 0:09:41- Diolch am y gwahoddiad heno. - Lle awn ni rwan?

0:09:41 > 0:09:45- Dw i wedi aros yn sobor, - mae pawb arall wedi meddwi.

0:09:45 > 0:09:46- Dw i jyst yn mynd i gael tsips.

0:09:46 > 0:09:48- Dw i jyst yn mynd i gael tsips.- - Syniad gret.

0:09:54 > 0:10:00- Roedd y ddau ohonon ni'n ddisgyblion - yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

0:10:00 > 0:10:04- Wnes i ddysgu shwt i chwerthin, - gwneud sbort am ben pobl...

0:10:04 > 0:10:08- ..derbyn cael sbort - wedi'i wneud am fy mhen i.

0:10:08 > 0:10:10- Ges i amser hapus iawn.

0:10:10 > 0:10:15- Popeth dw i'n gwybod am berfformio, - wnes i ddysgu yn Glantaf.

0:10:15 > 0:10:17- Ffrindiau da, athrawon da...

0:10:17 > 0:10:20- ..a, chredwch neu beidio, - wnes i chwarae rygbi.

0:10:21 > 0:10:25- Dyma ni'n ol yn yr ysgol - lle cychwynnodd bob dim.

0:10:25 > 0:10:27- Tipyn o hanes fan hyn.

0:10:27 > 0:10:31- Y neuadd oedd canolbwynt yr ysgol.

0:10:31 > 0:10:37- Y pethau neis oedd yn digwydd - - sioeau. Wastad musicals Cymraeg.

0:10:37 > 0:10:40- O'n nhw'n agored i chi - wneud unrhyw beth.

0:10:40 > 0:10:42- Pan o'n ni mewn band...

0:10:43 > 0:10:48- ..o'n nhw'n hapus i chi ddefnyddio - fan hyn i ymarfer a gwneud gigs.

0:10:49 > 0:10:53- Gwnaeth band heavy metal Cymraeg - Ceffyl Pren...

0:10:53 > 0:10:56- ..fel glam rock - - yn canu Roc Ar Y Radio.

0:10:56 > 0:10:58- "A wyt ti'n clywed?"

0:10:59 > 0:11:02- Roedd gyda nhw lot o arian - tu ol iddyn nhw.

0:11:02 > 0:11:06- I hyrwyddo bod nhw'n gwneud un gig - yn America...

0:11:06 > 0:11:08- ..efo'r gan - Mae'r Ddraig Yn Hedfan...

0:11:09 > 0:11:12- ..wnaethon nhw gyrraedd fan hyn - mewn helicopter.

0:11:12 > 0:11:14- Roedden ni i gyd fel hyn...

0:11:15 > 0:11:20- Dod i mewn, ac yn digwydd bod - roedd French exchange students yma.

0:11:20 > 0:11:25- Wnaethon nhw ddod 'mlaen a mynd, - "Dix, neuf, huit..."

0:11:25 > 0:11:28- Roedden ni jyst methu credu'r peth.

0:11:28 > 0:11:32- Roedd Ffrancwyr wedi dod - o ganol Nantes neu rywle.

0:11:32 > 0:11:38- Wnaethon nhw fynd, "Dix, neuf... - trois, deux, un" a ffiwsio'r ysgol!

0:11:38 > 0:11:42- Plygio i mewn - a gwnaeth y lle fynd yn nyts.

0:11:42 > 0:11:44- Wedyn hedfan off.

0:11:44 > 0:11:47- Oes ysgol arall - sy'n gallu deud yr un fath?

0:11:48 > 0:11:52- Roedd ffotograffydd o'r papur wedi - tynnu llun a wnaeth Michael Evans...

0:11:53 > 0:11:55- ..ddangos ei ben-ol.

0:11:55 > 0:11:58- I'r helicopter, mae'n anodd.

0:11:58 > 0:11:59- Yr ongl.

0:12:01 > 0:12:04- Atgofion melys. - Amazing - Ceffyl Pren.

0:12:04 > 0:12:08- Mae'n wir deud mai fan hyn - wnaeth Hanner Pei ddechrau.

0:12:09 > 0:12:10- Ar y llwyfan yna.

0:12:10 > 0:12:15- Cyn Hanner Pei - fi, Dafydd Palfrey - a Ceri Evans...

0:12:15 > 0:12:19- ..wnaethon ni greu band rap...

0:12:20 > 0:12:24- ..i godi arian i Dr Barnardo's - o'r enw Dr B.

0:12:24 > 0:12:26- Fi'n cofio.

0:12:27 > 0:12:29- "Ni yw'r rhai sy'n gas i bawb

0:12:29 > 0:12:32- "Ni'n dri ffynci, - mae rapio'n hawdd

0:12:32 > 0:12:34- "Ni'n rapio yn y bore

0:12:34 > 0:12:37- "Ni'n rapio yn y dydd, - rapio yn yr ysgol

0:12:38 > 0:12:39- "Ni yw'r gorau sydd"

0:12:39 > 0:12:41- Geiriau clyfar.

0:12:41 > 0:12:45- Ond ie, y gig fan'na, - wedi gwisgo mewn cotiau gwyn.

0:12:47 > 0:12:49- Ie, Dr B.

0:12:49 > 0:12:52- Wnaethon ni un gig, - dyna i gyd wnaethon ni.

0:12:53 > 0:12:56- Wedyn gwnaeth Hanner Pei - godi o hynny.

0:12:56 > 0:13:00- # Merched ym mhobman ond yr un - dw i moyn yw ti, fy nghariad

0:13:00 > 0:13:03- # Ti yw'r un sy'n dal fy nghalon i

0:13:04 > 0:13:08- # Mae fy ffrindiau'n chwerthin ac - yn dweud dy fod ti'n wastraff amser

0:13:08 > 0:13:11- # Ond wnei di wrando ar fy nghri?

0:13:11 > 0:13:15- # Ti yw aur y byd, - ti yw perlau'r mor

0:13:16 > 0:13:23- # Ti yw'r pethau drud - sy'n gwneud dyn yn ffol #

0:13:25 > 0:13:29- Egwyl fer sy nesa. - Dewch yn ol mewn ychydig funudau.

0:13:29 > 0:13:29- .

0:13:35 > 0:13:35- Isdeitlau

0:13:35 > 0:13:37- Isdeitlau- - Isdeitlau

0:13:42 > 0:13:45- Croeso'n ol ata i Gaerdydd.

0:13:45 > 0:13:48- Dw i yng nghwmni y brodyr - Daniel a Matthew Glyn.

0:13:48 > 0:13:53- Mae Matthew yn aros amdana i - ar dop y bws awyr agored fan'cw.

0:14:00 > 0:14:05- Math, dan ni yn y Bae. Mae fan'ma - wedi newid lot dros y blynyddoedd.

0:14:05 > 0:14:09- Ydy, ond dw i ddim eisiau swnio - fel hen ddyn...

0:14:09 > 0:14:13- .."Mi oedd e i gyd yn gaeau - pryd o'n i'n fach." Ond mi oedd e.

0:14:13 > 0:14:15- Pryd o'n i'n tyfu i fyny...

0:14:15 > 0:14:19- ..roedd yr ochr ddiwydiannol - wedi dod i ben.

0:14:19 > 0:14:23- Roedd o jyst yn dir gwastad.

0:14:24 > 0:14:27- Beth sy'n ddiddorol am ddod yn ol - a pha mor posh ydy o...

0:14:28 > 0:14:31- ..dw i'n cofio - pan o'n ni yn ein harddegau...

0:14:32 > 0:14:36- ..a Dan wedi pasio ei brawf gyrru, - gyrru o gwmpas fan hyn...

0:14:37 > 0:14:43- ..a byddet ti'n ffeindio caeau, - ardaloedd yn llawn cwningod.

0:14:43 > 0:14:48- Troi'r headlights ymlaen ac roedd - y cwningod i gyd yn rhedeg i ffwrdd.

0:14:54 > 0:14:58- Dan ni'n dwad rwan - i fyny at ardal Clwb Ifor.

0:14:58 > 0:15:01- Wyt ti ella'n pitio...

0:15:01 > 0:15:05- ..ella na fydd yr un math o le - yn bodoli...

0:15:05 > 0:15:10- ..i dy blant di pan fyddan nhw - yn tyfu i fyny ac yn mynd allan?

0:15:10 > 0:15:15- Mae lot mwy o ddewis iddyn nhw nag - oedd i fi o ran canolfannau Cymraeg.

0:15:17 > 0:15:23- Achos mae'r niferoedd o bobl - sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu.

0:15:23 > 0:15:28- Mae'r ffaith bod y Cynulliad yma, - mae mwy o gyfleon i bobl ddod...

0:15:28 > 0:15:33- ..o wahanol ardaloedd o Gymru i fyw - fan hyn, felly mae mwy o ddewis.

0:15:38 > 0:15:44- Faset ti'n hapus i'r plant ddilyn ol - dy droed di ac aros yn eu cyffiniau?

0:15:46 > 0:15:49- Bydden i'n hoffi iddyn nhw - deithio lot mwy na fi.

0:15:50 > 0:15:54- Dw i heb wneud lot o deithio, - fi ddim yn rhy siwr pam.

0:15:54 > 0:15:57- Byth wedi cael y cyfle, - byth wedi cael yr awydd.

0:15:58 > 0:16:00- Gobeithio bydd fy mhlant i.

0:16:00 > 0:16:03- Mae 'ngwraig i wedi teithio'r byd.

0:16:03 > 0:16:08- Gobeithio wnan nhw gymryd - ar ei hol hi - gawn ni weld.

0:16:14 > 0:16:19- Math, dan ni bellach wedi cyrraedd - Penarth, lle ti'n byw erbyn hyn.

0:16:19 > 0:16:23- Cwestiwn gwirion, - achos mae'n lle bendigedig.

0:16:23 > 0:16:25- Ond beth ti'n licio am Benarth?

0:16:26 > 0:16:29- Dreuliais i 'mywyd cyfan - yng Nghaerdydd.

0:16:29 > 0:16:34- O'n ni'n gwerthu'r ty a gwnes i - syrthio allan o gariad efo Caerdydd.

0:16:35 > 0:16:38- Wnes i dreulio fy arddegau - a 'mywyd cyfan fan'na.

0:16:38 > 0:16:44- Roedd 'na gyfle i ddod fan hyn - - roedd y ty perffaith fan hyn.

0:16:45 > 0:16:47- O'n ni'n dechrau teulu.

0:16:48 > 0:16:53- Roedd ffrindiau wedi symud i fan hyn - ac o'n i'n gwybod bod 'na gymuned.

0:16:53 > 0:16:58- A ges i 'ngeni ym Mhenarth. Symud - i Gaerdydd wnes i pan o'n i'n un.

0:16:58 > 0:17:00- Dw i'n dod yn ol adref fan hyn.

0:17:00 > 0:17:03- Mae'n teimlo fel Caerdydd.

0:17:03 > 0:17:07- Mae Caerdydd 10 munud ffor'na, - dan ni ddim yn bell.

0:17:07 > 0:17:11- Ac eto, ti'n teimlo allan - o fwrlwm y ddinas fawr.

0:17:11 > 0:17:17- Mae gynnoch chi ryw fath o draeth, - y mor, golygfeydd anhygoel.

0:17:17 > 0:17:22- Dyna pam gwnes i ddod fan hyn - a dw i wedi mwynhau byw fan hyn.

0:17:22 > 0:17:27- Fel gwnest ti ddeud, ddim - yn rhy bell o Gaerdydd lle mae Dan.

0:17:27 > 0:17:29- Digon pell i ffwrdd o Dan.

0:17:30 > 0:17:34- Mae Dan ond 10 munud i ffwrdd, - jyst digon.

0:17:34 > 0:17:39- Tasa chdi eisiau unrhyw beth - unrhyw adeg, 'mond codi'r ffon.

0:17:40 > 0:17:44- Fydden i ddim yn ffonio Dan. No way! - Fydden i ddim yn trystio fe.

0:17:45 > 0:17:49- Mewn argyfwng, y person olaf - fasen i'n ffonio fyddai Dan.

0:17:49 > 0:17:51- Byddai Dan yn dechrau panicio.

0:17:51 > 0:17:55- Mae e rownd y gornel a diolch byth - bod fi ddim yn gorfod ffonio fe.

0:18:04 > 0:18:08- Fi wnaeth gwrdd a Jams gyntaf - ar gwrs drama'r Urdd.

0:18:08 > 0:18:13- Wnaethon ni ddim siarad am dridiau, - wedyn sylweddoli bod ni'n mwynhau...

0:18:13 > 0:18:18- ..bod yn anaeddfed, a ni wedi bod - yn gwneud hynna ers 30 mlynedd.

0:18:18 > 0:18:24- Beth alla i ddweud am Jams Thomas? - Na, o ddifri beth alla i ddweud?

0:18:24 > 0:18:27- Mae o'n ffrind da i fi a Dan.

0:18:28 > 0:18:31- Fe yw'r unig berson - fi'n nabod o'r enw Jams.

0:18:37 > 0:18:39- Roedd Dan a'i gyfoedion...

0:18:41 > 0:18:47- ..ar y pryd, o'n i ymysg nhw, - yn galw Math a'i gyfoedion...

0:18:47 > 0:18:51- ..Daf Palfrey, Ceri Gwynfryn - a chriw Hanner Pei, yn baldis...

0:18:52 > 0:18:56- ..oherwydd o'n nhw'n iau - ac yn methu tyfu barf.

0:18:58 > 0:19:01- O'n i'n byw yn nhy Dan a Math - ar y pryd.

0:19:01 > 0:19:06- Falle bod chi'n gwybod gwnaeth rieni - Math a Dan farw pan o'n nhw'n ifanc.

0:19:06 > 0:19:12- A thrwy hynny, fi'n credu gwnaeth - Dan a Math ddysgu gwerth ffrindiau.

0:19:13 > 0:19:17- Gwnaethon nhw ddysgu fi - beth yw gwerth ffrindiau.

0:19:17 > 0:19:22- Ddim jyst pobl i gael laff 'da nhw, - o'n nhw'n gallu bod yn gefn i chi.

0:19:23 > 0:19:26- Mae Dan a Math - wedi bod fel'na ers hynny.

0:19:27 > 0:19:29- Ond ar y pryd - o'n i'n byw yn eu ty nhw.

0:19:30 > 0:19:32- Daeth Math gartre wedi cael tattoo.

0:19:33 > 0:19:37- Tattoo native American a rhyw saeth - - un bach ar ei gorff.

0:19:38 > 0:19:39- Gofynnwch iddo fe.

0:19:39 > 0:19:44- Fi a Dan yn mynd, "Wow! Mae un - o'r baldis wedi cael tattoo cyn ni."

0:19:44 > 0:19:50- Gwnaeth Dan a fi ruthro mas a ges i - tattoo ar fy mraich o hydrogen atom.

0:19:50 > 0:19:52- Bach yn soft falle!

0:19:52 > 0:19:55- Roedd Dan yn waeth, - gewch chi ofyn am hwn...

0:19:55 > 0:19:58- ..gaeth e Winnie-the-Pooh - wedi tatwio fan'na!

0:19:59 > 0:20:04- Un bach fel y lluniau gwreiddiol - yn llyfrau AA Milne.

0:20:04 > 0:20:09- Roedd y ddau ohonon ni wedi cael - ein sbyrio 'mlaen i gael tattoo...

0:20:10 > 0:20:14- ..a'r ddau ohonon ni - wedi cael pethau bach pathetig.

0:20:14 > 0:20:17- Ers hynny, mae 'da ni sleeves - dros ein cyrff.

0:20:17 > 0:20:20- Ni'n ddynion go iawn!

0:20:20 > 0:20:23- Math oedd y cyntaf i gael tattoo - yn y '90au...

0:20:24 > 0:20:27- ..pryd doedd plant - dosbarth canol ddim yn gwneud.

0:20:28 > 0:20:31- Y brawd bach yn cychwyn - cyn y brawd mawr.

0:20:31 > 0:20:34- Pwy sy'n cael y gair olaf - os oes 'na ddadl?

0:20:35 > 0:20:39- Mae Math yn gallu siarad dros Gymru - am unrhyw bwnc.

0:20:40 > 0:20:43- Ond mae Dan yn rhoi - put-downs uffernol o dda.

0:20:43 > 0:20:45- Maen nhw on a par fan'na.

0:20:45 > 0:20:49- Ond mae Dan yn y diwedd - yn cael y llinell 'shut up'.

0:20:59 > 0:21:04- Yn gyflwynwyr, actorion, - perfformwyr, sgriptwyr, comediwyr...

0:21:04 > 0:21:07- ..lle dach chi arni erbyn heddiw?

0:21:07 > 0:21:11- Ti'n gwybod beth ydy fy jobyn i? - Tad.

0:21:12 > 0:21:14- Llawn amser!

0:21:15 > 0:21:18- O'n i wastad eisiau bod yn gomediwr.

0:21:18 > 0:21:23- Os ydy rhywun yn disgrifio fi fel - comediwr, mae'n gwneud fi'n hapus.

0:21:23 > 0:21:26- Dw i o hyd yn meddwl yn fy ngyrfa...

0:21:26 > 0:21:31- ..bod rhywun yn mynd i ddweud, - "Ti ddim yn gwybod beth ti'n wneud."

0:21:33 > 0:21:38- A bod rhywun yn deud, - "Ddylset ti ddim gwneud y job yma."

0:21:40 > 0:21:45- Os wi'n gallu deud wrth rywun, - "Dw i'n sgwennwr," yna dw i'n hapus.

0:21:46 > 0:21:48- Hanner awdur, sgriptiwr.

0:21:49 > 0:21:52- Oes 'na gynlluniau i weithio - efo'ch gilydd yn y dyfodol?

0:21:53 > 0:21:54- Ddim ar ol gwneud hwn.

0:21:55 > 0:21:59- Mae e wedi atgoffa ni pam dan ni - ddim yn gweithio efo'n gilydd.

0:21:59 > 0:22:04- Mae Math a fi wedi sgwennu nifer - o bethau, rhaglenni cyfrifiadurol...

0:22:04 > 0:22:09- ..rhaglenni comedi, stand-yp - efo'n gilydd, gwaith theatr.

0:22:09 > 0:22:13- Fi ddim yn credu taw gwaith teledu - ydy'r ffordd ymlaen.

0:22:13 > 0:22:18- Does dim lot o waith mas yna - neu basen ni'n dal i'w wneud e.

0:22:18 > 0:22:20- Dyn ni wedi bod yn trafod.

0:22:20 > 0:22:25- Achos dyn ni ddim wedi sgwennu efo'n - gilydd ers pedair, pum mlynedd.

0:22:26 > 0:22:31- Wnaethon ni sgwennu efo'n gilydd - am mor hir, 12 mlynedd non-stop.

0:22:32 > 0:22:34- Ni'n eitha mwynhau'r hiatus.

0:22:35 > 0:22:39- Mewn ffordd mae 'na gyd-destun - gwahanol i ni.

0:22:39 > 0:22:43- Pan o'n ni'n cwrdd am ginio dydd Sul - bydden ni'n mynd...

0:22:43 > 0:22:46- .."Mae'r sgript yn gorfod bod - yn barod."

0:22:46 > 0:22:50- Mae'n eitha neis - bod y cyd-destun yna wedi mynd nawr.

0:22:50 > 0:22:54- Jyst malu awyr am ffilms - a gemau computers a comics.

0:22:57 > 0:23:01- Y swmp o waith dyn ni wedi'i wneud, - fi'n browd iawn o'r swmp.

0:23:01 > 0:23:03- Fi'n meddwl bod e'n anhygoel.

0:23:04 > 0:23:07- Diolch o galon, - mae hi wedi bod yn bleser.

0:23:32 > 0:23:34- Isdeitlwyd gan CAPSIWN ar gyfer S4C

0:23:34 > 0:23:34- .