Browse content similar to Pennod 2. Check below for episodes and series from the same categories and more!
Line | From | To | |
---|---|---|---|
-Yn yr hanner awr nesa i Lundain i -weld dillad dinesig Ceri Hughes. | 0:00:01 | 0:00:05 | |
-A chawn wybod pam fod dychwelyd -o fyw yn y Dwyrain Pell... | 0:00:06 | 0:00:09 | |
-...wedi trawsnewid cwpwrdd -Owen Saer. | 0:00:09 | 0:00:11 | |
-Ond yng Nghaerdydd y dechreuwn ni -efo Hannah Roberts. | 0:00:12 | 0:00:15 | |
-Croeso i Cwpwrdd Dillad. | 0:00:16 | 0:00:18 | |
-889 | 0:00:20 | 0:00:20 | |
-889 | 0:00:20 | 0:00:22 | |
-889 | 0:00:27 | 0:00:29 | |
-889 | 0:00:34 | 0:00:36 | |
-Actores ac athrawes -ydy Hannah Roberts. | 0:00:46 | 0:00:49 | |
-Mae hi'n dotio ar ddillad. | 0:00:49 | 0:00:52 | |
-Roedd hynny yn rhoi rheswm -perffaith i mi... | 0:00:52 | 0:00:54 | |
-..fynd i gael golwg ar rai eitemau -yn ei chypyrddau hi. | 0:00:55 | 0:00:59 | |
-Beth oedd dillad yn ei olygu i chi -pan oeddech chi'n tyfu i fyny? | 0:01:08 | 0:01:12 | |
-Ges i fy nghodi gyda ffasiwn -achos roedd Mam yn dressmaker. | 0:01:12 | 0:01:19 | |
-Roedd hi'n gwneud fy nillad i -i gyd a dillad ei hunan. | 0:01:19 | 0:01:23 | |
-Roedd Mam yn gonfensiynol iawn... | 0:01:23 | 0:01:26 | |
-...ac yn gobeithio fydden i'n tyfu -lan yn gonfensiynol ond wnes i ddim. | 0:01:26 | 0:01:31 | |
-O'n i'n licio pethau gwahanol. | 0:01:31 | 0:01:33 | |
-Os ydw i am fod yn onest... | 0:01:33 | 0:01:37 | |
-..o'n i'n licio tynnu sylw -at fy hunan. | 0:01:37 | 0:01:40 | |
-Falle welech chi fi -yn Tesco rhyw ddiwrnod... | 0:01:50 | 0:01:53 | |
-..yn edrych fel shabwnen, -fel yn ni'n gweud yn Abertawe. | 0:01:54 | 0:01:56 | |
-Edrych yn rel mess -achos dw i ddim wedi trafferthu. | 0:01:57 | 0:02:00 | |
-Ac wedyn diwrnod arall, fydda -i'n codi a fydda i'n meddwl... | 0:02:01 | 0:02:04 | |
-.."It's bordering -on the glamour today." | 0:02:04 | 0:02:07 | |
-A fe dria i i edrych yn fwy teidi. | 0:02:07 | 0:02:10 | |
-Wi'n credu bod e i wneud a'r ser... | 0:02:11 | 0:02:14 | |
-..achos wi'n gemini. | 0:02:14 | 0:02:17 | |
-Mae deuoliaeth mewn gemini. | 0:02:17 | 0:02:20 | |
-Yr efeilliaid a hwnna i gyd. | 0:02:22 | 0:02:23 | |
-Wi yn credu bod 'na ddwy ochr -i fy nghymeriad i. | 0:02:24 | 0:02:28 | |
-Oes 'na ddegawd -lle dach chi'n meddwl... | 0:02:30 | 0:02:33 | |
-..steil yr adeg yna -o'n i wirioneddol yn ei licio. | 0:02:33 | 0:02:37 | |
-Wi'n dwlu ar ddillad y 40au. | 0:02:37 | 0:02:40 | |
-A'r 20au hefyd. | 0:02:40 | 0:02:43 | |
-Hefyd dillad Edwardian. | 0:02:43 | 0:02:48 | |
-Mae steil arbennig i'r rheina. -Very elegant. | 0:02:48 | 0:02:51 | |
-O'n i'n licio'r ensemble. | 0:02:51 | 0:02:54 | |
-Roedd y wisg, yr accessories, -y bagiau a'r shoes i gyd yn mynd. | 0:02:56 | 0:03:02 | |
-Roedd e'n fwy cyflawn na'r ffordd -yn ni'n gwisgo heddiw. | 0:03:04 | 0:03:08 | |
-Mae hoffter Hannah o'r ensemble -yn dylanwadu yn gryf... | 0:03:10 | 0:03:13 | |
-..ar gynnwys ei chwpwrdd dillad. | 0:03:13 | 0:03:16 | |
-Mae'r got yn rhan bwysig o hynny ac -mae un cwpwrdd yn llawn ohonyn nhw. | 0:03:16 | 0:03:21 | |
-Y cotiau. Mae o'n gwneud synnwyr -yn fan hyn ar y ffordd allan. | 0:03:21 | 0:03:26 | |
-Odi, mae e'n handi. | 0:03:26 | 0:03:28 | |
-Mae dipyn o ddewis gynnoch chi. | 0:03:28 | 0:03:29 | |
-Mae dipyn o ddewis gynnoch chi. - -Oes. | 0:03:29 | 0:03:31 | |
-Yn fan hyn mae'r duffle coat. | 0:03:32 | 0:03:34 | |
-O'dd un 'da fi drwy'r coleg a wi -ddim wedi gwisgo un oddi ar hynny. | 0:03:34 | 0:03:39 | |
-O'n i ym Mharis dwy flynedd yn ol -a dyma ble roedd hon. | 0:03:39 | 0:03:42 | |
-Roedd rhaid prynu hi. | 0:03:43 | 0:03:44 | |
-Roedd rhaid prynu hi. - -Roedd hi'n gweiddi arnoch chi. | 0:03:44 | 0:03:46 | |
-Fasach chi'n mynd i Baris -yn unswydd i siopa? | 0:03:46 | 0:03:49 | |
-Na fasen. | 0:03:49 | 0:03:51 | |
-Jyst digwydd bod yna -a methu dod yn ol heb ddim byd. | 0:03:51 | 0:03:55 | |
-Mae'r got ffyr hyn -wedi bod 'da fi ers blynyddoedd. | 0:03:55 | 0:03:59 | |
-Ac mae hon yn dod mas -pob gaeaf achos mae hi fel blanced. | 0:03:59 | 0:04:04 | |
-Dydy hi ddim yn ffyr go iawn? | 0:04:05 | 0:04:06 | |
-Dydy hi ddim yn ffyr go iawn? - -Nac ydy. | 0:04:06 | 0:04:08 | |
-Ond mae 'da fi ffyr go iawn -yn fan'na. | 0:04:08 | 0:04:11 | |
-Wna i ddangos e nawr. | 0:04:11 | 0:04:13 | |
-Y peth yw, brynen i ddim ffyr nawr -ond mae e'n rhy hwyr i hwn. | 0:04:15 | 0:04:19 | |
-Peth yw e i'w roi rownd eich gwddw. | 0:04:19 | 0:04:22 | |
-Fasach chi'n dal i wisgo fo rwan? | 0:04:23 | 0:04:25 | |
-Fasach chi'n dal i wisgo fo rwan? - -Baswn. Wi yn dal i'w wisgo fe. | 0:04:25 | 0:04:29 | |
-Jyst fel hyn. | 0:04:29 | 0:04:31 | |
-Mae 'na gynffon yn dal arno fo. | 0:04:32 | 0:04:35 | |
-Mae hwnna'n mynd trwyddach chi, odi? | 0:04:37 | 0:04:38 | |
-Mae hwnna'n mynd trwyddach chi, odi? - -Yndi! | 0:04:38 | 0:04:40 | |
-Dw i'n teimlo yn gyfforddus -mewn hat. | 0:04:58 | 0:05:01 | |
-Unrhyw fath o hat. | 0:05:01 | 0:05:03 | |
-Mae hwn yn swnio'n beth od i'w -weud, ond mae hetiau yn siwtio fi. | 0:05:06 | 0:05:11 | |
-Chi'n gwybod pam wi'n hoffi nhw? | 0:05:11 | 0:05:13 | |
-Glywch chi lot o bobl yn gweud -"Wi'n mynd i brynu hat i briodas". | 0:05:13 | 0:05:19 | |
-Dw i erioed wedi meddwl fel'na. | 0:05:20 | 0:05:22 | |
-Os bryna i hat wisga i fe, -full stop! | 0:05:22 | 0:05:24 | |
-Mae Hannah yn rhoi pwyslais mawr -ar fanylion y wisg. | 0:05:32 | 0:05:36 | |
-A gwisgo'r dwylo yn rhan o hyn. | 0:05:36 | 0:05:38 | |
-Drar y menyg yw hwn, Nia. | 0:05:38 | 0:05:41 | |
-Mae 'na fenyg -o bob lliw a llun fan hyn. | 0:05:42 | 0:05:45 | |
-A lledr y rhan fwya ohonyn nhw. | 0:05:45 | 0:05:47 | |
-Maen nhw'n lledr meddal. Brynais i'r -rhan fwya ohonyn nhw yn Florence... | 0:05:47 | 0:05:52 | |
-..yn y marchnadoedd -achos bod nhw'n eitha rhad. | 0:05:52 | 0:05:55 | |
-Felly mae'r rheina. | 0:05:55 | 0:05:57 | |
-Mae rhai coch a pinc... | 0:05:58 | 0:06:01 | |
-..a cerise yn fan'na. | 0:06:02 | 0:06:04 | |
-O'dd rhain yn boblogaidd yn y 50au - -o'n i'n gwisgo'r rhain i'r cwrdd. | 0:06:05 | 0:06:09 | |
-Del. Rhai fel crochet. | 0:06:11 | 0:06:12 | |
-Del. Rhai fel crochet. - -Mae lliw neis arnyn nhw. | 0:06:12 | 0:06:14 | |
-Wedyn rhai yr un peth eto ond Mam-gu -sy'n biau'r rhain. | 0:06:14 | 0:06:17 | |
-Neu Mam-gu oedd piau nhw. -Ac maen nhw'n eitha hen. | 0:06:18 | 0:06:21 | |
-Pa law yw hon nawr? | 0:06:23 | 0:06:26 | |
-Maen nhw'n ddel, dydyn? | 0:06:26 | 0:06:29 | |
-Wnaeth Madonna wneud nhw'n ffasiynol -heb fysedd yn yr 80au. | 0:06:29 | 0:06:34 | |
-Mae twll yn hwnna, -maen nhw mor hen. | 0:06:34 | 0:06:37 | |
-Ond maen nhw'n feminine iawn. | 0:06:38 | 0:06:39 | |
-Fedrwch chi ddisgrifio'r teimlad -dach chi'n gael... | 0:06:52 | 0:06:54 | |
-..o brynu rhywbeth dach chi -wirioneddol wedi dotio arno fo? | 0:06:54 | 0:06:59 | |
-Gallaf, jyst mewn un gair - buzz. | 0:06:59 | 0:07:02 | |
-Mae e'n gwneud person -i deimlo yn gret. | 0:07:03 | 0:07:06 | |
-Mae e'n codi'ch calon chi. | 0:07:08 | 0:07:10 | |
-Dw i am unrhyw beth -sy'n codi fy nghalon i. | 0:07:11 | 0:07:14 | |
-Wi'n cofio actores eitha enwog -ar y teledu... | 0:07:17 | 0:07:20 | |
-..yn gofyn i fi yr un cwestiwn. | 0:07:20 | 0:07:22 | |
-Wedodd hi bod e'n rhoi lot mwy -o buzz iddi na rhyw. | 0:07:22 | 0:07:26 | |
-A wi'n teimlo yr un peth! | 0:07:26 | 0:07:28 | |
-Saer coed a thiwtor iaith -ydy Owen Saer. | 0:07:50 | 0:07:53 | |
-Mae o wedi byw am flynyddoedd lawer -yn Korea a Siapan a'r cyfnod yma... | 0:07:54 | 0:08:00 | |
-..a'r flwyddyn dychwelodd i Gymru i -fyw sy'n siapio ei gwpwrdd dillad o. | 0:08:00 | 0:08:05 | |
-Fy atgofion cynta i oedd mynd -i siopa am ddillad gyda Mam. | 0:08:12 | 0:08:18 | |
-Roedd yn gas 'da fi fynd. | 0:08:18 | 0:08:20 | |
-Dw i ddim yn cofio gweld dilledyn -a meddwl dw i'n licio hwn. | 0:08:20 | 0:08:25 | |
-Dw i jyst yn cofio.... | 0:08:25 | 0:08:26 | |
-.."Dw i ddim eisiau bod yma, dw i -ddim eisiau gwisgo'r pethau 'ma!" | 0:08:26 | 0:08:30 | |
-O'n i'n arfer dweud wrth Mam yn y -Gymraeg "Dw i ddim yn licio hwn". | 0:08:31 | 0:08:35 | |
-Ac roedd Mam yn dweud yn Saesneg -"You don't like it"... | 0:08:35 | 0:08:38 | |
-..yn uchel fel bod pobl y siop -yn clywed. | 0:08:38 | 0:08:41 | |
-Don nhw ddim yn brofiadau arbennig -o gadarnhaol. | 0:08:42 | 0:08:46 | |
-Yn Siapan a Korea -mae ganddyn nhw wisg draddodiadol. | 0:08:56 | 0:08:59 | |
-Bues i mewn -arddangosfa neu amgueddfa... | 0:08:59 | 0:09:04 | |
-..ble o'ch chi'n gweld kimonos. | 0:09:04 | 0:09:06 | |
-O'n nhw werth miloedd ar filoedd! | 0:09:06 | 0:09:09 | |
-O'n nhw'n dweud wrtho i, -taw dyna oedd yr eiddo. | 0:09:10 | 0:09:14 | |
-Yn y wlad hon yn ni'n meddwl -am ein cartrefi fel eiddo. | 0:09:15 | 0:09:18 | |
-Ond fyddai kimono -yn costio 100,000 falle. | 0:09:18 | 0:09:23 | |
-Achos fod cymaint o ddaeargrynfeydd -a Tsunami ac ati.... | 0:09:25 | 0:09:31 | |
-..doedd y cartref ddim yn rhywbeth -parhaol allech chi ddibynnu arno fe. | 0:09:31 | 0:09:35 | |
-Ond roedd y Kimono yn rhywbeth -allech chi gludo efo chi. | 0:09:35 | 0:09:39 | |
-Roedd y feddylfryd -yn wahanol yn fan'na. | 0:09:39 | 0:09:42 | |
-Dyma ni. -Croeso i'r boudoir, fel petai. | 0:09:57 | 0:10:00 | |
-Dyma dy boudoir di. | 0:10:00 | 0:10:02 | |
-A'r rhain ydy dy kimonos di? | 0:10:03 | 0:10:05 | |
-A'r rhain ydy dy kimonos di? - -Anghywir! Nid kimonos mo'r rhain. | 0:10:05 | 0:10:07 | |
-Mae kimono yn rhywbeth mwy -sylweddol. | 0:10:08 | 0:10:11 | |
-Yukata yw'r gair. | 0:10:11 | 0:10:13 | |
-Yukata. | 0:10:14 | 0:10:15 | |
-Yukata. - -Dyna ni. | 0:10:15 | 0:10:17 | |
-Mae'r rhain yn rhywbeth fyddech -chi'n wisgo yn draddodiadol... | 0:10:17 | 0:10:20 | |
-..ar ol cael bath neu mewn -gwesty traddodiadol yn Siapan. | 0:10:21 | 0:10:25 | |
-Triwn ni nhw. | 0:10:26 | 0:10:27 | |
-Rhai ar gyfer y dynion yw'r rhain. | 0:10:27 | 0:10:29 | |
-Fasai rhai i'r merched -yn fwy lliwgar? | 0:10:30 | 0:10:33 | |
-Mae gyda ni rai yn fan'na. | 0:10:33 | 0:10:35 | |
-Mae'r rheina yn neisiach! | 0:10:37 | 0:10:39 | |
-Pan ddychwelodd Owen i Gymru -yn 2001... | 0:10:40 | 0:10:44 | |
-..roedd o'n teimlo fod angen help -arno efo'i ddelwedd. | 0:10:44 | 0:10:48 | |
-Felly, aeth o i weld arbenigwyr -steil a lliw. | 0:10:48 | 0:10:51 | |
-Sonia wrtha i am beth ddigwyddodd -yn ystod yr ymgynghoriad... | 0:10:53 | 0:10:57 | |
-..efo'r arbenigwraig lliw a steil. | 0:10:57 | 0:11:01 | |
-I ddechrau o'n nhw'n edrych ar liw. | 0:11:01 | 0:11:03 | |
-Lliw eich croen, lliw eich llygaid -chi, lliw naturiol eich gwallt. | 0:11:03 | 0:11:09 | |
-Ac o'n nhw'n dangos swatches -o wahanol liwiau nesa atoch chi. | 0:11:09 | 0:11:13 | |
-Ar ol trafod y lliw... | 0:11:13 | 0:11:15 | |
-..o'n nhw'n symud 'mlaen i edrych -ar eich personoliaeth a'ch steil. | 0:11:16 | 0:11:20 | |
-O'n nhw edrych ar siap eich corff, -siap eich wyneb chi. | 0:11:20 | 0:11:24 | |
-Wedyn yn seiliedig ar hyn... | 0:11:24 | 0:11:27 | |
-..maen nhw'n pennu steil i chi. | 0:11:28 | 0:11:32 | |
-Felly dyma'r lliwiau -ti'n cael eu gwisgo, mewn ffordd. | 0:11:32 | 0:11:35 | |
-Ie. Mae hwn yn ganllaw a fel ti'n -gweld, mae hwn yn eitha agos. | 0:11:36 | 0:11:41 | |
-Yndi. | 0:11:43 | 0:11:46 | |
-Mae'r rheina i gyd yn adlewyrchu... | 0:11:46 | 0:11:49 | |
-Mae'r rheina i gyd yn adlewyrchu... - -Maen nhw fwy neu lai yr un peth. | 0:11:49 | 0:11:52 | |
-Mae crys yn bwysig achos bod e -mor fawr ac yn nes at eich wyneb. | 0:11:53 | 0:11:57 | |
-Felly mae'n bwysig -bod chi'n cael hwnna yn gywir. | 0:11:57 | 0:12:00 | |
-'Sdim cymaint o ots am bethau eraill -fel hances neu eich trwser chi. | 0:12:00 | 0:12:05 | |
-Ond mae'n bwysig bod chi'n trio -cael lliw sy'n siwtio chi orau... | 0:12:05 | 0:12:10 | |
-..yn agos at eich wyneb chi. | 0:12:10 | 0:12:12 | |
-Felly dw i wedi gwneud yn siwr -bod fi'n cael y rhain yn iawn. | 0:12:12 | 0:12:15 | |
-Ydy'r un yn wir am liw y teis? | 0:12:16 | 0:12:19 | |
-Ydy'r un yn wir am liw y teis? - -Ydi. | 0:12:19 | 0:12:20 | |
-Eto, maen nhw'n eitha prescriptive. | 0:12:21 | 0:12:24 | |
-Maen nhw'n dweud unrhyw beth -gyda streipiau mawr... | 0:12:24 | 0:12:29 | |
-..i chi osgoi. | 0:12:29 | 0:12:31 | |
-Alla i wneud hon, jyst. | 0:12:32 | 0:12:34 | |
-Ond ddim byd mwy? | 0:12:34 | 0:12:35 | |
-Ond ddim byd mwy? - -Na. | 0:12:35 | 0:12:36 | |
-Ar gyfer dilyn y lliw mae'r rhain -yn bethau bach heb eu hail. | 0:12:51 | 0:12:56 | |
-Dim ond ryw 2 yr un ydyn nhw. | 0:12:57 | 0:12:59 | |
-Felly bryni di ddilledyn mewn lliw -ti ddim i fod i wisgo... | 0:12:59 | 0:13:04 | |
-..ac wedyn eu llifo nhw? | 0:13:05 | 0:13:06 | |
-..ac wedyn eu llifo nhw? - -Gan amlaf, rhai gwynion. | 0:13:06 | 0:13:09 | |
-Mae 'na hanes tu ol i'r crys hyn. | 0:13:09 | 0:13:12 | |
-Crys gwyn hyfryd oedd hwn. -Ac wedyn ges i ddamwain. | 0:13:12 | 0:13:18 | |
-Wnes i roi'r crys yn y peiriant -golch gyda beiro. | 0:13:18 | 0:13:21 | |
-O, na! | 0:13:21 | 0:13:23 | |
-O, na! - -Strywa'r beiro, strywa'r crys. | 0:13:23 | 0:13:25 | |
-Feddyliais i, -dw i ddim yn mynd i daflu'r crys. | 0:13:25 | 0:13:27 | |
-Mae o'n grys drud. | 0:13:27 | 0:13:29 | |
-Felly, liwiais i'r crys -ac mae o wedi gweithio. | 0:13:30 | 0:13:34 | |
-Roedd hi'n help -ac yn rhyddhad cael rheolau... | 0:13:47 | 0:13:50 | |
-..achos mae cymaint o siopau dillad -yng Nghaerdydd. | 0:13:51 | 0:13:54 | |
-Chi'n mynd i mewn ac mae gwahanol -liwiau, steil a phris... | 0:13:54 | 0:13:57 | |
-..a chi'n meddwl... | 0:13:57 | 0:13:58 | |
-.."Beth wi'n mynd i brynu?" oni bai -bod chi'n mwynhau prynu dillad. | 0:13:59 | 0:14:02 | |
-A do'n i ddim, fel y cyfryw. -Gwaith oedd e yn hytrach na phleser. | 0:14:02 | 0:14:05 | |
-So mae e'n help i chi -wneud penderfyniadau yn gyflym. | 0:14:06 | 0:14:10 | |
-889 | 0:14:25 | 0:14:25 | |
-889 - -889 | 0:14:25 | 0:14:27 | |
-Mae Ceri Hughes wedi gweithio -yn Llundain... | 0:14:35 | 0:14:38 | |
-..fel ymgynghorydd rheolaeth busnes -ers 10 mlynedd. | 0:14:39 | 0:14:42 | |
-Efo'i siwtiau slic -a'i dillad o'r brifddinas... | 0:14:42 | 0:14:45 | |
-..yn byrlymu o'i chypyrddau. | 0:14:45 | 0:14:47 | |
-Mae 'na bethau da am fywyd Llundain -ac mae 'na bethau drwg. | 0:14:51 | 0:14:55 | |
-Weithau dw i'n ysu i fynd adra. | 0:14:55 | 0:14:57 | |
-Ond yn gyffredinol, mae 'na gymaint -i'w wneud ac mae o'n lle prysur... | 0:14:57 | 0:15:01 | |
-..mae fy ffrindiau i yma. -Mae o'n ffantastig! | 0:15:01 | 0:15:05 | |
-Faset ti'n deud fod byw yn Llundain -wedi siapio neu ddylanwadu... | 0:15:17 | 0:15:22 | |
-..ar gynnwys dy gwpwrdd dillad di? | 0:15:22 | 0:15:24 | |
-I'r raddau, baswn. | 0:15:25 | 0:15:27 | |
-Dw i'n meddwl bod chdi'n gwisgo -dillad gwahanol yn y ddinas... | 0:15:27 | 0:15:31 | |
-..jyst oherwydd fod pawb arall -yn gwisgo'r math yna o ddillad. | 0:15:31 | 0:15:35 | |
-A hefyd fy ngwaith i. Mae hynny wedi -dylanwadu ar beth dw i'n wneud. | 0:15:35 | 0:15:40 | |
-Gwaith swyddfa, -gwisg ffurfiol - y math yna o beth. | 0:15:40 | 0:15:43 | |
-Mae fy wardrobe i -yn eitha gwahanol... | 0:15:43 | 0:15:45 | |
-..rhwng y dillad gwaith -a dillad fy amser sbar. | 0:15:45 | 0:15:49 | |
-Fel dynes sy'n gweithio -ym myd busnes... | 0:15:50 | 0:15:53 | |
-..wyt ti'n gwneud ymdrech bod -dy siwt yn un sy ddim yn rhywiol? | 0:15:53 | 0:15:59 | |
-Yn isel neu yn fyr iawn? | 0:15:59 | 0:16:02 | |
-Yn sicr, yndw. Mae'r byd busnes -dal yn lle gwrywaidd iawn. | 0:16:02 | 0:16:07 | |
-Ac er bod hynny wedi newid, faswn i -ddim eisiau bod yn y gwaith... | 0:16:07 | 0:16:12 | |
-..yn denu sylw -am y rhesymau anghywir. | 0:16:15 | 0:16:18 | |
-Yndi, mae hynna yn beth -faswn i'n meddwl amdano fo... | 0:16:19 | 0:16:22 | |
-..ac yn gwneud yn siwr bod -fi'n eitha parchus yn y gwaith. | 0:16:22 | 0:16:26 | |
-Nia, dyma fy llofft wely i -a dyma fy nghypyrddau dillad i. | 0:16:53 | 0:16:57 | |
-Gawn ni sbio yn hon yn gynta. | 0:16:58 | 0:16:59 | |
-Hwn ydy cwpwrdd Ceri. | 0:17:00 | 0:17:02 | |
-Fy nillad personol i. | 0:17:02 | 0:17:04 | |
-Gawn ni sbio yn y llall i ddechrau. | 0:17:04 | 0:17:06 | |
-Dillad gwaith sy'n fan'na. | 0:17:07 | 0:17:08 | |
-Dillad gwaith sy'n fan'na. - -Dillad gwaith sy'n fan hyn. | 0:17:08 | 0:17:11 | |
-Mae hon lot yn llai diddorol -na'r cwpwrdd arall. | 0:17:12 | 0:17:15 | |
-Does 'na ddim cymaint o liw. | 0:17:15 | 0:17:16 | |
-Does 'na ddim cymaint o liw. - -Na, does 'na ddim. | 0:17:16 | 0:17:19 | |
-Gwahanol siwtiau - maen nhw i gyd -yn edrych yr un fath o fan hyn. | 0:17:19 | 0:17:22 | |
-Os wna i ddangos ambell i siwt. | 0:17:23 | 0:17:26 | |
-Hon ydy'r siwt gynta -wnes i brynu erioed. | 0:17:26 | 0:17:30 | |
-So 10 mlynedd yn ol. | 0:17:30 | 0:17:32 | |
-Dw i'n cofio prynu'r siwt yma. -Mynd efo dwy ffrind i Hobbs. | 0:17:33 | 0:17:36 | |
-Nhw'n eistedd ar y soffa -yn ymgynghori ar y siwtiau. | 0:17:37 | 0:17:40 | |
-Nhw ddewisiodd fy siwt gynta i. | 0:17:40 | 0:17:43 | |
-Ac mae gen i siwtiau eraill. | 0:17:47 | 0:17:51 | |
-Mae hon yn dod o Paul Smith. -Mae hon wedi para yn hir. | 0:17:51 | 0:17:56 | |
-Ond fel ti'n gweld, -maen nhw yn eitha serious. | 0:17:57 | 0:18:00 | |
-Wedi eu teilwra yn dda. | 0:18:00 | 0:18:03 | |
-Mae 'na bethau mymryn yn wahanol. -Mae'r bwyth yna ar hyd fan'na. | 0:18:03 | 0:18:08 | |
-Pethau bach -i wneud pethau yn wahanol. | 0:18:08 | 0:18:11 | |
-Ac amrywiaeth bach o liwiau. | 0:18:11 | 0:18:12 | |
-Ac amrywiaeth bach o liwiau. - -Ychydig bach. | 0:18:12 | 0:18:14 | |
-Lot neisach ydy cael siwtiau -dw i ddim yn eu gwisgo i'r gwaith. | 0:18:15 | 0:18:19 | |
-Mae hon yn un o fy ffefrynnau i. | 0:18:19 | 0:18:22 | |
-Wnes i brynu hon a'i gwisgo hi -i briodasau. | 0:18:22 | 0:18:25 | |
-Ac wedyn sylweddoli 'mod i'n -gwisgo hon i briodas pawb... | 0:18:25 | 0:18:28 | |
-..a bod y lluniau i gyd yn -dangos fi'n gwisgo'r siwt yma. | 0:18:29 | 0:18:31 | |
-Dw i wedi prynu mwy o dillad i fynd -i briodasau erbyn hyn. | 0:18:31 | 0:18:34 | |
-Beth sy'n gret efo siwt ydy ti'n -newid y top o dani ac mae'n iawn. | 0:18:34 | 0:18:39 | |
-Clasur i'w chael ym mhob cwpwrdd. | 0:18:39 | 0:18:42 | |
-Yn ogystal a'r siwtiau gwaith, -mae gan Ceri ochr feddalach. | 0:18:46 | 0:18:49 | |
-Efo llawer o sgidiau, -bagiau a gwisgoedd glam iawn... | 0:18:50 | 0:18:53 | |
-..ar gyfer nosweithiau allan -efo'r genod. | 0:18:53 | 0:18:56 | |
-Dw i wedi bod yn hoff o ddillad -erioed, licio pethau creadigol. | 0:19:22 | 0:19:26 | |
-Pan o'n i'n tyfu i fyny o'n i'n -gwneud lot o ganu a pherfformio. | 0:19:27 | 0:19:32 | |
-Ond hefyd roedd y diddordeb wedi dod -pan o'n i'n ifanc. | 0:19:34 | 0:19:37 | |
-Roedd Mam wedi mynd a fi i Clinique. | 0:19:37 | 0:19:40 | |
-A dw i'n cofio mwynhau cael fy -lipstick cynta a'r make-up cynta... | 0:19:40 | 0:19:44 | |
-..a dysgu ei roi o 'mlaen yn iawn. | 0:19:44 | 0:19:47 | |
-So diolch Mam am wneud hynna. | 0:19:49 | 0:19:52 | |
-Y peth cynta dw i'n sylwi -munud ti'n agor y cwpwrdd... | 0:20:05 | 0:20:07 | |
-..yw bod hi mor daclus. -Sbia ar y rhain i gyd wedi'u plygu. | 0:20:08 | 0:20:11 | |
-Taset ti'n dod i weld fi - -popeth wedi ei wthio i mewn. | 0:20:11 | 0:20:14 | |
-Ac yn eu blociau lliw hefyd. -Wyt ti'n berson fel'na beth bynnag? | 0:20:15 | 0:20:19 | |
-Os ydy fan hyn yn daclus -mae fy mywyd i'n eitha taclus. | 0:20:19 | 0:20:24 | |
-Ac os ydy fy mywyd i'n fwy bler, -mae fan hyn yn fler. | 0:20:24 | 0:20:27 | |
-Os dw i'n tacluso fan hyn dw i'n -teimlo bod fi'n tacluso 'mywyd. | 0:20:27 | 0:20:31 | |
-Ydy hynna'n od? | 0:20:31 | 0:20:32 | |
-Ydy hynna'n od? - -Nac ydy, ddim o gwbl. | 0:20:32 | 0:20:35 | |
-Ac mae'n rhaid i fi ddeud... | 0:20:35 | 0:20:37 | |
-..mae hyd yn oed dy nicyrs a dy -fras di mewn blociau o liw! | 0:20:38 | 0:20:41 | |
-Wyt ti'n un o'r bobl 'ma sy 'mond -yn gwisgo bra a nicyrs sy'n mynd? | 0:20:42 | 0:20:46 | |
-Rhaid gwneud. | 0:20:46 | 0:20:49 | |
-Symud ymlaen. | 0:20:49 | 0:20:52 | |
-Wnawn ni adael y rheina yn fan'na -a symud ymlaen at y dillad. | 0:20:52 | 0:20:55 | |
-Mae hon yn gret. | 0:20:55 | 0:20:57 | |
-Mae hon yn un o'n ffefrynnau i. | 0:20:57 | 0:20:59 | |
-Dw i'n cofio meddwl bod hi -mor drawiadol. | 0:21:00 | 0:21:02 | |
-Ac yn aml dw i'n gwisgo hi ac mae -pobl yn gofyn "lle gest ti honna?" | 0:21:02 | 0:21:07 | |
-Mae dy ddillad di yr ochr hyn, yng -nghwpwrdd Ceri, yn eitha benywaidd. | 0:21:09 | 0:21:16 | |
-Lot o liwiau. | 0:21:16 | 0:21:18 | |
-Mae 'na wahaniaeth mawr -rhwng y ddwy. | 0:21:18 | 0:21:22 | |
-Mae'n symptomatig. Dw i'n licio bod -yn wahanol i sut ydw i yn y dydd. | 0:21:22 | 0:21:27 | |
-Pethau sparkley. | 0:21:27 | 0:21:30 | |
-Beth am dy fywyd cymdeithasol di yn -Llundain? Ti'n gweithio oriau hir? | 0:21:30 | 0:21:34 | |
-Ti'n cael cyfle i fynd allan efo -criwiau gwaith? | 0:21:34 | 0:21:37 | |
-Mae'n dibynnu. Gan bod fi'n -gweithio ar brosiectau... | 0:21:37 | 0:21:41 | |
-..mae ambell i brosiect yn hawdd -a ti'n gallu mynd allan tipyn. | 0:21:42 | 0:21:46 | |
-Mae rhai lle dw i'n gweithio oriau -hir a llai o gyfle i fynd allan. | 0:21:46 | 0:21:51 | |
-'Sgen ti rywbeth arall o Whistles? | 0:21:51 | 0:21:53 | |
-'Sgen ti rywbeth arall o Whistles? - -Mae hanner y wardrobe o Whistles. | 0:21:53 | 0:21:55 | |
-Mae hon yn dod Whistles. | 0:21:56 | 0:21:58 | |
-Steil eitha Missoni, -ac eitha bohemian... | 0:21:58 | 0:22:02 | |
-..efo'r fringe 'ma yn fan hyn. | 0:22:03 | 0:22:05 | |
-Taswn i'n rhoi 1,000 i chdi, -i ble faset ti'n mynd i siopa... | 0:22:38 | 0:22:42 | |
-..a beth faset ti'n brynu? | 0:22:42 | 0:22:44 | |
-Taswn i'n gorfod prynu un peth, -faswn i'n prynu siaced lledr... | 0:22:44 | 0:22:48 | |
-..o Nicole Farhi. | 0:22:48 | 0:22:51 | |
-Wnes i brynu siaced ddrud ac mi -gaeth hi ei dwyn o'r restaurant... | 0:22:51 | 0:22:57 | |
-..lle o'n i ac o'n i'n sicr -mod i'n cael fy nghosbi gan Dduw... | 0:22:58 | 0:23:02 | |
-..am wario cymaint o bres -ar siaced yn y lle cynta. | 0:23:02 | 0:23:06 | |
-Tasai rhaid i ti ddisgrifio -dy hoff ddilledyn di... | 0:23:15 | 0:23:20 | |
-..fel ffrind i ti, sut faset ti'n -disgrifio ei gymeriad o? | 0:23:20 | 0:23:26 | |
-Faswn i'n disgrifio fo fel... | 0:23:29 | 0:23:32 | |
-..rhywbeth sy'n ddibynadwy. | 0:23:32 | 0:23:35 | |
-Rhywbeth faswn -i'n teimlo'n dda ynddo fo. | 0:23:35 | 0:23:38 | |
-Rhywbeth sy ychydig yn wahanol -a fasai neb arall yn wisgo. | 0:23:38 | 0:23:42 | |
-So rhywun sy ychydig bach yn wahanol -ond yn ddibynadwy. | 0:23:42 | 0:23:46 | |
-Is-deitlwyd gan ACEN ar gyfer S4C | 0:24:14 | 0:24:16 |