Browse content similar to Dan a Matthew Glyn. Check below for episodes and series from the same categories and more!
Line | From | To | |
---|---|---|---|
-Isdeitlau | 0:00:00 | 0:00:00 | |
-Isdeitlau - -Isdeitlau | 0:00:00 | 0:00:02 | |
-Isdeitlau | 0:00:07 | 0:00:09 | |
-Isdeitlau | 0:00:14 | 0:00:16 | |
-Helo 'na a chroeso i'r rhaglen. | 0:00:23 | 0:00:25 | |
-Dw i yng Nghaerdydd i sgwrsio efo -dau frawd sy wedi'u geni a'u magu... | 0:00:25 | 0:00:30 | |
-..yn y brifddinas, -Daniel a Matthew Glyn. | 0:00:30 | 0:00:34 | |
-Helo, fy enw i yw Daniel Glyn. | 0:00:39 | 0:00:41 | |
-Rydw i'n gomediwr stand-yp -a fi'n sgwennu jocs a llyfrau plant. | 0:00:41 | 0:00:46 | |
-Fi wedi cyflwyno rhaglenni plant -pan o'n i'n deneuach. | 0:00:46 | 0:00:50 | |
-Hefyd rhaglenni prosiect, -interview efo pobl fel Rhys Ifans. | 0:00:50 | 0:00:55 | |
-Matthew Glyn Jones ydw i. | 0:00:56 | 0:00:58 | |
-Dw i'n frawd i Dan, yn awdur, ac yn -sgwennu dramau fel Gwaith/Cartref. | 0:00:58 | 0:01:03 | |
-A rhaglenni comedi i blant fel -Y Rhaglen Wirion 'Na a Hotel Eddie. | 0:01:04 | 0:01:09 | |
-Amser maith yn ol, mi o'n i -mewn band o'r enw Hanner Pei. | 0:01:09 | 0:01:13 | |
-Roedden ni'n arbenigo mewn ffync. | 0:01:13 | 0:01:15 | |
-Dyma ni yng Nghlwb Ifor. | 0:01:21 | 0:01:24 | |
-Beth sy'n dod a ni i fan hyn? | 0:01:24 | 0:01:26 | |
-Wel, yn amlwg yn tyfu i fyny -yng Nghaerdydd... | 0:01:27 | 0:01:30 | |
-..os oeddet ti'n siarad Cymraeg, -roedd 'na wahanol ganolfannau. | 0:01:31 | 0:01:35 | |
-Yr Urdd yn Conway Road, -a gwnaeth Clwb Ifor Bach agor. | 0:01:36 | 0:01:39 | |
-Ar y pryd roedd o'n lle -super duper Cymraeg. | 0:01:39 | 0:01:43 | |
-O't ti i fod yn aelod, ond os -o't ti'n gallu siarad Cymraeg... | 0:01:44 | 0:01:49 | |
-..bydden nhw'n gadael ti i mewn. | 0:01:49 | 0:01:52 | |
-Ar ddiwedd y noson, roedd rhaid -i bawb ganu Hen Wlad Fy Nhadau. | 0:01:52 | 0:01:56 | |
-Roedd y Manic Street Preachers -wedi chwarae fan hyn. | 0:01:56 | 0:02:00 | |
-Y line up oedd Manic Sreet -Preachers, Tynal Tywyll... | 0:02:00 | 0:02:04 | |
-..a Hanner Pei ar waelod y bil, -wnaeth y Manics erioed droi i fyny. | 0:02:05 | 0:02:09 | |
-Ond roedd Hanner Pei -yn yr un frawddeg a'r Manics. | 0:02:09 | 0:02:13 | |
-Alla i ddim dychmygu dau fand... | 0:02:13 | 0:02:15 | |
-Alla i ddim dychmygu dau fand... - -Where are they now? | 0:02:15 | 0:02:17 | |
-Felly Caerdydd wedi chwarae -rhan bwysig yn eich magwraeth chi. | 0:02:18 | 0:02:24 | |
-Dan, ti'n dal yn byw yng Nghaerdydd. | 0:02:24 | 0:02:27 | |
-A Math, chdithau ddim -wedi mynd yn rhy bell. | 0:02:27 | 0:02:31 | |
-Mae'ch gwreiddiau chi -yn ddwfn iawn yng Nghaerdydd. | 0:02:31 | 0:02:35 | |
-Dw i erioed wedi symud yn bellach -o Gaerdydd na rhyw bum milltir. | 0:02:37 | 0:02:42 | |
-Ti wedi byw mewn nifer o wahanol -wledydd a llefydd hefyd. | 0:02:43 | 0:02:48 | |
-Ond o hyd wedi dod yn ol. | 0:02:49 | 0:02:51 | |
-Beth sy'n neis amboutu Caerdydd... | 0:02:51 | 0:02:55 | |
-..ydy bod o'n ddigon bach, -os wyt ti o'ma neu'n berson dwad... | 0:02:56 | 0:03:01 | |
-..ti'n teimlo rhyw ownership -ar y lle. | 0:03:01 | 0:03:05 | |
-Mae'n lle gret i fagu plant. | 0:03:05 | 0:03:07 | |
-Dyn ni'n dadau nawr - -ddim efo'n gilydd! | 0:03:07 | 0:03:10 | |
-Ac mae o'n lle gret i fagu plant. | 0:03:10 | 0:03:13 | |
-Dan, chdi ydy'r hynaf. -Faint sy rhyngddoch chi? | 0:03:13 | 0:03:17 | |
-Tair blynedd. | 0:03:17 | 0:03:17 | |
-Tair blynedd. - -A hanner. | 0:03:17 | 0:03:19 | |
-Dw i'n siwr bod straeon difyr -dros y blynyddoedd. | 0:03:19 | 0:03:23 | |
-O'n i'n arfer bwlio Math lot. | 0:03:23 | 0:03:26 | |
-O'n i wrth fy modd efo Lego, -a bydden i'n treulio oriau... | 0:03:28 | 0:03:32 | |
-..yn adeiladu -y llongau gofod anhygoel yma. | 0:03:32 | 0:03:36 | |
-A bydden i'n dangos e, -fi ddim yn gwybod pam. | 0:03:38 | 0:03:41 | |
-O'n i eisiau i Dan weld hwn -a dweud pa mor dda oedd e. | 0:03:41 | 0:03:46 | |
-A byddai Dan yn dweud, -"Mae hwn yn ardderchog." | 0:03:46 | 0:03:49 | |
-Sefyll ar dop y grisiau a dweud, -"Yw e'n hedfan?" a'i daflu fe. | 0:03:50 | 0:03:55 | |
-Roedd e'n deilchion. | 0:03:55 | 0:03:57 | |
-Dach chi wedi chwarae lot o driciau -ar eich gilydd dros y blynyddoedd. | 0:03:57 | 0:04:03 | |
-Yn agos fel dau frawd, dw i'n siwr. | 0:04:03 | 0:04:05 | |
-Beth wnaeth ddigwydd... | 0:04:06 | 0:04:08 | |
-..gwnaeth ein mam ni farw -yn ifanc iawn, dim ond yn 46. | 0:04:08 | 0:04:13 | |
-O'n i'n 16. | 0:04:14 | 0:04:16 | |
-Roedd y deinameg 'na o'r brawd mawr -yn bwlio, roedd rhaid tyfu i fyny. | 0:04:16 | 0:04:21 | |
-Os oes rhywbeth trist yn digwydd, -mae 'na oleuni, gwnaethon ni glosio. | 0:04:21 | 0:04:27 | |
-Gwnaeth Dad farw -cwpl o flynyddoedd ar ol hynny. | 0:04:27 | 0:04:31 | |
-Ti'n sylweddoli -mai dyna'r unig deulu sydd 'da ti. | 0:04:31 | 0:04:35 | |
-Roedd e'n bwysig bod ni'n agos -achos dyna i gyd oedd 'da ni. | 0:04:35 | 0:04:39 | |
-Doedd dim dewis. | 0:04:39 | 0:04:41 | |
-Wnaethon ni fondio -dros gemau cyfrifiadurol. | 0:04:41 | 0:04:45 | |
-Ges i ZX81 efo 1K o memory -arno fe... | 0:04:45 | 0:04:48 | |
-..pan o'n i'n wyth. | 0:04:49 | 0:04:50 | |
-Daeth y consoles allan -a'r Nintendos. | 0:04:50 | 0:04:53 | |
-Un o'r jobs cynhara oedd sgwennu -a bod yn rhan o dim cynhyrchu... | 0:04:53 | 0:04:58 | |
-..ac actio a chyflwyno rhaglen o'r -enw Mega, computer game review show. | 0:04:58 | 0:05:03 | |
-Roedden ni ar tua 400 yr wythnos -am dri mis. | 0:05:06 | 0:05:09 | |
-Dyna i gyd o'n ni'n wneud -oedd chwarae gemau a gwneud reviews. | 0:05:10 | 0:05:14 | |
-Fi ydy Bil. | 0:05:18 | 0:05:19 | |
-Fi ydy Bil. - -A fi ydy Dil. | 0:05:19 | 0:05:21 | |
-Helo! | 0:05:21 | 0:05:22 | |
-Mae datblygiadau yn y byd -chwyldroadol yn dod wrthon ni... | 0:05:22 | 0:05:26 | |
-..i chi! | 0:05:26 | 0:05:27 | |
-Mae gwyddonwyr, gan ddefnyddio -technoleg yn gallu tyfu clustiau. | 0:05:27 | 0:05:33 | |
-Pardwn? Ha ha! | 0:05:33 | 0:05:35 | |
-Dyma pryd gwnaethon ni conscious -decision i beidio cyd-gyflwyno. | 0:05:35 | 0:05:41 | |
-Gwnaeth pawb fynd, -"It's the chuckle brothers!" | 0:05:41 | 0:05:45 | |
-Dim cyd-gyflwyno eto! | 0:05:45 | 0:05:47 | |
-Ar y pryd roedd y Brodyr Bach. | 0:05:48 | 0:05:50 | |
-Y Brodyr Llai! | 0:05:50 | 0:05:52 | |
-Ti jyst yn mynd, "Na!" | 0:05:53 | 0:05:55 | |
-Ond beth wnaeth ddigwydd... | 0:05:56 | 0:05:58 | |
-..wnaethon ni ddechrau sgwennu -ar wahan a gwneud rhaglenni plant. | 0:05:58 | 0:06:04 | |
-O'n ni'n diweddu i fyny -yn trio am yr un jobsys. | 0:06:04 | 0:06:08 | |
-Ti wnaeth fynd, "Pam na wnawn ni -roi'r ddau at ei gilydd?" | 0:06:08 | 0:06:12 | |
-Ro'n ni ryw 12 mlynedd -yn sgwennu efo'n gilydd. | 0:06:13 | 0:06:17 | |
-Roedden ni'n sgwennu bob dydd -am 12 mlynedd - jocs ac yn y blaen. | 0:06:17 | 0:06:22 | |
-Pan o'n ni'n tyfu lan -roedd ein tad yn ffan mawr o gomedi. | 0:06:24 | 0:06:28 | |
-Gwneud i ni watsio gwaith -Mel Brooks a John Cleese a Python. | 0:06:28 | 0:06:32 | |
-O'n i'n ymwybodol bod -bod yn gomediwr yn swydd. | 0:06:33 | 0:06:36 | |
-Es i i weld Freddie Starr a mwynhau -gweld un person yn malu awyr. | 0:06:36 | 0:06:41 | |
-Gwnes i benderfynu bod yn stand-yp. | 0:06:42 | 0:06:45 | |
-Gwylio arwyr fel David Baddiel, -Rob Newman... | 0:06:45 | 0:06:49 | |
-..Robin Williams, Eddie Murphy. | 0:06:49 | 0:06:51 | |
-Fi eisiau go, ac un diwrnod -fi'n mynd i'w gael o'n iawn. | 0:06:52 | 0:06:56 | |
-Mr Daniel Glyn! | 0:06:56 | 0:06:58 | |
-CYMERADWYAETH | 0:06:58 | 0:06:59 | |
-Thank you. | 0:07:00 | 0:07:02 | |
-Dan ni yn Abertawe, tu allan i glwb -The Scene. Beth sy'n mynd ymlaen? | 0:07:04 | 0:07:10 | |
-Dw i'n gwneud gymaint o stand-yp -ag y medra i, dair gwaith y mis! | 0:07:10 | 0:07:15 | |
-Dw i'n ddiog iawn. | 0:07:15 | 0:07:17 | |
-Mae hi wedi cymryd chwarter canrif i -wneud y math yma o gig, yn Saesneg. | 0:07:17 | 0:07:22 | |
-Bydda i'n gwneud cwpl o jocs, -son am lot o 'mhrofiadau Cymraeg i. | 0:07:23 | 0:07:28 | |
-Stwff am Glantaf, son am Glwb -Ifor Bach, ond ei wneud e'n Saesneg. | 0:07:28 | 0:07:33 | |
-Mae'n Gymreig iawn, -ond yn yr iaith Saesneg. | 0:07:33 | 0:07:37 | |
-O ran stand-yp, ti'n perfformio mwy -yn y Saesneg neu yn y Gymraeg? | 0:07:38 | 0:07:43 | |
-Mae o'n 50/50. Fifty pumdeg! | 0:07:43 | 0:07:46 | |
-Hanner a hanner, mae 'na ddigon -o waith Cymraeg a Saesneg mas yna. | 0:07:47 | 0:07:52 | |
-Mae o'n fwy o sialens -i'w wneud o yn Saesneg. | 0:07:52 | 0:07:56 | |
-Yn Gymraeg mae llai o gystadleuaeth. | 0:07:56 | 0:07:57 | |
-Yn Gymraeg mae llai o gystadleuaeth. - -Wyt ti'n mynd yn nerfus o gwbl? | 0:07:57 | 0:07:59 | |
-Ydw, wastad. | 0:08:00 | 0:08:01 | |
-Wnaeth e gymryd 10 mlynedd i fi -stopio bod yn sic cyn gwneud gig. | 0:08:01 | 0:08:06 | |
-Fi wedi stopio gwneud hwnna nawr. | 0:08:06 | 0:08:09 | |
-Os wyt ti'n dweud -bod ti'n mynd i event... | 0:08:09 | 0:08:14 | |
-..mae ffon ti'n atgoffa ti. | 0:08:14 | 0:08:16 | |
-Gwnaeth hwnna ddigwydd -rhyw bum munud yn ol! | 0:08:16 | 0:08:19 | |
-Give us a shout if you've -been to Clwb Ifor Bach. | 0:08:23 | 0:08:27 | |
-I did something terrible -when I was young in Clwb Ifor. | 0:08:27 | 0:08:31 | |
-Don't judge me. | 0:08:31 | 0:08:32 | |
-In Clwb my mate said, "Let's go -to the bogs, everybody's doing it." | 0:08:32 | 0:08:38 | |
-There was a bloke in the cubicle. | 0:08:38 | 0:08:41 | |
-The three of us stuffed -ourselves in, locked the door... | 0:08:42 | 0:08:46 | |
-..and in Clwb Ifor Bach -we spoke English - we did. | 0:08:46 | 0:08:51 | |
-Diolch yn fawr. | 0:08:52 | 0:08:53 | |
-Mae'r gig newydd orffen -a dyma fo, Mr Glyn ei hun. | 0:08:54 | 0:08:58 | |
-Noswaith dda. | 0:08:59 | 0:08:59 | |
-Noswaith dda. - -Iawn, Dan? | 0:08:59 | 0:09:01 | |
-Wnest di ddim cwympo i gysgu? | 0:09:01 | 0:09:03 | |
-Wnest di ddim cwympo i gysgu? - -Naddo. | 0:09:03 | 0:09:04 | |
-Llongyfarchiadau. | 0:09:04 | 0:09:04 | |
-Llongyfarchiadau. - -Diolch yn fawr. | 0:09:04 | 0:09:06 | |
-Sut aeth hi? | 0:09:06 | 0:09:06 | |
-Sut aeth hi? - -Roedd hi'n boeth i mewn yna. | 0:09:06 | 0:09:09 | |
-Roedd o'n waith caled, a fi wastad -yn teimlo'n od yn siarad Saesneg. | 0:09:09 | 0:09:14 | |
-Gwnaethon nhw chwerthin. | 0:09:14 | 0:09:15 | |
-Gwnaethon nhw chwerthin. - -Oedda chdi'n hapus? | 0:09:15 | 0:09:17 | |
-Achos bod fi o Gaerdydd ti'n meddwl -bod pobl Abertawe yn mynd i ladd ti. | 0:09:17 | 0:09:23 | |
-'Sneb wedi dwyn y car - ideal. | 0:09:23 | 0:09:25 | |
-Aeth ambell joc i lawr yn well -na'i gilydd? | 0:09:25 | 0:09:28 | |
-Y joc am rywun yn dwyn fy nghar i... | 0:09:28 | 0:09:30 | |
-Y joc am rywun yn dwyn fy nghar i... - -Wnaeth neb chwerthin. Awkward. | 0:09:30 | 0:09:33 | |
-Hashtag awkward! Ond noson neis. | 0:09:34 | 0:09:37 | |
-Diolch am y gwahoddiad heno. -Lle awn ni rwan? | 0:09:37 | 0:09:41 | |
-Dw i wedi aros yn sobor, -mae pawb arall wedi meddwi. | 0:09:41 | 0:09:45 | |
-Dw i jyst yn mynd i gael tsips. | 0:09:45 | 0:09:46 | |
-Dw i jyst yn mynd i gael tsips. - -Syniad gret. | 0:09:46 | 0:09:48 | |
-Roedd y ddau ohonon ni'n ddisgyblion -yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. | 0:09:54 | 0:10:00 | |
-Wnes i ddysgu shwt i chwerthin, -gwneud sbort am ben pobl... | 0:10:00 | 0:10:04 | |
-..derbyn cael sbort -wedi'i wneud am fy mhen i. | 0:10:04 | 0:10:08 | |
-Ges i amser hapus iawn. | 0:10:08 | 0:10:10 | |
-Popeth dw i'n gwybod am berfformio, -wnes i ddysgu yn Glantaf. | 0:10:10 | 0:10:15 | |
-Ffrindiau da, athrawon da... | 0:10:15 | 0:10:17 | |
-..a, chredwch neu beidio, -wnes i chwarae rygbi. | 0:10:17 | 0:10:20 | |
-Dyma ni'n ol yn yr ysgol -lle cychwynnodd bob dim. | 0:10:21 | 0:10:25 | |
-Tipyn o hanes fan hyn. | 0:10:25 | 0:10:27 | |
-Y neuadd oedd canolbwynt yr ysgol. | 0:10:27 | 0:10:31 | |
-Y pethau neis oedd yn digwydd - -sioeau. Wastad musicals Cymraeg. | 0:10:31 | 0:10:37 | |
-O'n nhw'n agored i chi -wneud unrhyw beth. | 0:10:37 | 0:10:40 | |
-Pan o'n ni mewn band... | 0:10:40 | 0:10:42 | |
-..o'n nhw'n hapus i chi ddefnyddio -fan hyn i ymarfer a gwneud gigs. | 0:10:43 | 0:10:48 | |
-Gwnaeth band heavy metal Cymraeg -Ceffyl Pren... | 0:10:49 | 0:10:53 | |
-..fel glam rock - -yn canu Roc Ar Y Radio. | 0:10:53 | 0:10:56 | |
-"A wyt ti'n clywed?" | 0:10:56 | 0:10:58 | |
-Roedd gyda nhw lot o arian -tu ol iddyn nhw. | 0:10:59 | 0:11:02 | |
-I hyrwyddo bod nhw'n gwneud un gig -yn America... | 0:11:02 | 0:11:06 | |
-..efo'r gan -Mae'r Ddraig Yn Hedfan... | 0:11:06 | 0:11:08 | |
-..wnaethon nhw gyrraedd fan hyn -mewn helicopter. | 0:11:09 | 0:11:12 | |
-Roedden ni i gyd fel hyn... | 0:11:12 | 0:11:14 | |
-Dod i mewn, ac yn digwydd bod -roedd French exchange students yma. | 0:11:15 | 0:11:20 | |
-Wnaethon nhw ddod 'mlaen a mynd, -"Dix, neuf, huit..." | 0:11:20 | 0:11:25 | |
-Roedden ni jyst methu credu'r peth. | 0:11:25 | 0:11:28 | |
-Roedd Ffrancwyr wedi dod -o ganol Nantes neu rywle. | 0:11:28 | 0:11:32 | |
-Wnaethon nhw fynd, "Dix, neuf... -trois, deux, un" a ffiwsio'r ysgol! | 0:11:32 | 0:11:38 | |
-Plygio i mewn -a gwnaeth y lle fynd yn nyts. | 0:11:38 | 0:11:42 | |
-Wedyn hedfan off. | 0:11:42 | 0:11:44 | |
-Oes ysgol arall -sy'n gallu deud yr un fath? | 0:11:44 | 0:11:47 | |
-Roedd ffotograffydd o'r papur wedi -tynnu llun a wnaeth Michael Evans... | 0:11:48 | 0:11:52 | |
-..ddangos ei ben-ol. | 0:11:53 | 0:11:55 | |
-I'r helicopter, mae'n anodd. | 0:11:55 | 0:11:58 | |
-Yr ongl. | 0:11:58 | 0:11:59 | |
-Atgofion melys. -Amazing - Ceffyl Pren. | 0:12:01 | 0:12:04 | |
-Mae'n wir deud mai fan hyn -wnaeth Hanner Pei ddechrau. | 0:12:04 | 0:12:08 | |
-Ar y llwyfan yna. | 0:12:09 | 0:12:10 | |
-Cyn Hanner Pei - fi, Dafydd Palfrey -a Ceri Evans... | 0:12:10 | 0:12:15 | |
-..wnaethon ni greu band rap... | 0:12:15 | 0:12:19 | |
-..i godi arian i Dr Barnardo's -o'r enw Dr B. | 0:12:20 | 0:12:24 | |
-Fi'n cofio. | 0:12:24 | 0:12:26 | |
-"Ni yw'r rhai sy'n gas i bawb | 0:12:27 | 0:12:29 | |
-"Ni'n dri ffynci, -mae rapio'n hawdd | 0:12:29 | 0:12:32 | |
-"Ni'n rapio yn y bore | 0:12:32 | 0:12:34 | |
-"Ni'n rapio yn y dydd, -rapio yn yr ysgol | 0:12:34 | 0:12:37 | |
-"Ni yw'r gorau sydd" | 0:12:38 | 0:12:39 | |
-Geiriau clyfar. | 0:12:39 | 0:12:41 | |
-Ond ie, y gig fan'na, -wedi gwisgo mewn cotiau gwyn. | 0:12:41 | 0:12:45 | |
-Ie, Dr B. | 0:12:47 | 0:12:49 | |
-Wnaethon ni un gig, -dyna i gyd wnaethon ni. | 0:12:49 | 0:12:52 | |
-Wedyn gwnaeth Hanner Pei -godi o hynny. | 0:12:53 | 0:12:56 | |
-# Merched ym mhobman ond yr un -dw i moyn yw ti, fy nghariad | 0:12:56 | 0:13:00 | |
-# Ti yw'r un sy'n dal fy nghalon i | 0:13:00 | 0:13:03 | |
-# Mae fy ffrindiau'n chwerthin ac -yn dweud dy fod ti'n wastraff amser | 0:13:04 | 0:13:08 | |
-# Ond wnei di wrando ar fy nghri? | 0:13:08 | 0:13:11 | |
-# Ti yw aur y byd, -ti yw perlau'r mor | 0:13:11 | 0:13:15 | |
-# Ti yw'r pethau drud -sy'n gwneud dyn yn ffol # | 0:13:16 | 0:13:23 | |
-Egwyl fer sy nesa. -Dewch yn ol mewn ychydig funudau. | 0:13:25 | 0:13:29 | |
-. | 0:13:29 | 0:13:29 | |
-Isdeitlau | 0:13:35 | 0:13:35 | |
-Isdeitlau - -Isdeitlau | 0:13:35 | 0:13:37 | |
-Croeso'n ol ata i Gaerdydd. | 0:13:42 | 0:13:45 | |
-Dw i yng nghwmni y brodyr -Daniel a Matthew Glyn. | 0:13:45 | 0:13:48 | |
-Mae Matthew yn aros amdana i -ar dop y bws awyr agored fan'cw. | 0:13:48 | 0:13:53 | |
-Math, dan ni yn y Bae. Mae fan'ma -wedi newid lot dros y blynyddoedd. | 0:14:00 | 0:14:05 | |
-Ydy, ond dw i ddim eisiau swnio -fel hen ddyn... | 0:14:05 | 0:14:09 | |
-.."Mi oedd e i gyd yn gaeau -pryd o'n i'n fach." Ond mi oedd e. | 0:14:09 | 0:14:13 | |
-Pryd o'n i'n tyfu i fyny... | 0:14:13 | 0:14:15 | |
-..roedd yr ochr ddiwydiannol -wedi dod i ben. | 0:14:15 | 0:14:19 | |
-Roedd o jyst yn dir gwastad. | 0:14:19 | 0:14:23 | |
-Beth sy'n ddiddorol am ddod yn ol -a pha mor posh ydy o... | 0:14:24 | 0:14:27 | |
-..dw i'n cofio -pan o'n ni yn ein harddegau... | 0:14:28 | 0:14:31 | |
-..a Dan wedi pasio ei brawf gyrru, -gyrru o gwmpas fan hyn... | 0:14:32 | 0:14:36 | |
-..a byddet ti'n ffeindio caeau, -ardaloedd yn llawn cwningod. | 0:14:37 | 0:14:43 | |
-Troi'r headlights ymlaen ac roedd -y cwningod i gyd yn rhedeg i ffwrdd. | 0:14:43 | 0:14:48 | |
-Dan ni'n dwad rwan -i fyny at ardal Clwb Ifor. | 0:14:54 | 0:14:58 | |
-Wyt ti ella'n pitio... | 0:14:58 | 0:15:01 | |
-..ella na fydd yr un math o le -yn bodoli... | 0:15:01 | 0:15:05 | |
-..i dy blant di pan fyddan nhw -yn tyfu i fyny ac yn mynd allan? | 0:15:05 | 0:15:10 | |
-Mae lot mwy o ddewis iddyn nhw nag -oedd i fi o ran canolfannau Cymraeg. | 0:15:10 | 0:15:15 | |
-Achos mae'r niferoedd o bobl -sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu. | 0:15:17 | 0:15:23 | |
-Mae'r ffaith bod y Cynulliad yma, -mae mwy o gyfleon i bobl ddod... | 0:15:23 | 0:15:28 | |
-..o wahanol ardaloedd o Gymru i fyw -fan hyn, felly mae mwy o ddewis. | 0:15:28 | 0:15:33 | |
-Faset ti'n hapus i'r plant ddilyn ol -dy droed di ac aros yn eu cyffiniau? | 0:15:38 | 0:15:44 | |
-Bydden i'n hoffi iddyn nhw -deithio lot mwy na fi. | 0:15:46 | 0:15:49 | |
-Dw i heb wneud lot o deithio, -fi ddim yn rhy siwr pam. | 0:15:50 | 0:15:54 | |
-Byth wedi cael y cyfle, -byth wedi cael yr awydd. | 0:15:54 | 0:15:57 | |
-Gobeithio bydd fy mhlant i. | 0:15:58 | 0:16:00 | |
-Mae 'ngwraig i wedi teithio'r byd. | 0:16:00 | 0:16:03 | |
-Gobeithio wnan nhw gymryd -ar ei hol hi - gawn ni weld. | 0:16:03 | 0:16:08 | |
-Math, dan ni bellach wedi cyrraedd -Penarth, lle ti'n byw erbyn hyn. | 0:16:14 | 0:16:19 | |
-Cwestiwn gwirion, -achos mae'n lle bendigedig. | 0:16:19 | 0:16:23 | |
-Ond beth ti'n licio am Benarth? | 0:16:23 | 0:16:25 | |
-Dreuliais i 'mywyd cyfan -yng Nghaerdydd. | 0:16:26 | 0:16:29 | |
-O'n ni'n gwerthu'r ty a gwnes i -syrthio allan o gariad efo Caerdydd. | 0:16:29 | 0:16:34 | |
-Wnes i dreulio fy arddegau -a 'mywyd cyfan fan'na. | 0:16:35 | 0:16:38 | |
-Roedd 'na gyfle i ddod fan hyn -- roedd y ty perffaith fan hyn. | 0:16:38 | 0:16:44 | |
-O'n ni'n dechrau teulu. | 0:16:45 | 0:16:47 | |
-Roedd ffrindiau wedi symud i fan hyn -ac o'n i'n gwybod bod 'na gymuned. | 0:16:48 | 0:16:53 | |
-A ges i 'ngeni ym Mhenarth. Symud -i Gaerdydd wnes i pan o'n i'n un. | 0:16:53 | 0:16:58 | |
-Dw i'n dod yn ol adref fan hyn. | 0:16:58 | 0:17:00 | |
-Mae'n teimlo fel Caerdydd. | 0:17:00 | 0:17:03 | |
-Mae Caerdydd 10 munud ffor'na, -dan ni ddim yn bell. | 0:17:03 | 0:17:07 | |
-Ac eto, ti'n teimlo allan -o fwrlwm y ddinas fawr. | 0:17:07 | 0:17:11 | |
-Mae gynnoch chi ryw fath o draeth, -y mor, golygfeydd anhygoel. | 0:17:11 | 0:17:17 | |
-Dyna pam gwnes i ddod fan hyn -a dw i wedi mwynhau byw fan hyn. | 0:17:17 | 0:17:22 | |
-Fel gwnest ti ddeud, ddim -yn rhy bell o Gaerdydd lle mae Dan. | 0:17:22 | 0:17:27 | |
-Digon pell i ffwrdd o Dan. | 0:17:27 | 0:17:29 | |
-Mae Dan ond 10 munud i ffwrdd, -jyst digon. | 0:17:30 | 0:17:34 | |
-Tasa chdi eisiau unrhyw beth -unrhyw adeg, 'mond codi'r ffon. | 0:17:34 | 0:17:39 | |
-Fydden i ddim yn ffonio Dan. No way! -Fydden i ddim yn trystio fe. | 0:17:40 | 0:17:44 | |
-Mewn argyfwng, y person olaf -fasen i'n ffonio fyddai Dan. | 0:17:45 | 0:17:49 | |
-Byddai Dan yn dechrau panicio. | 0:17:49 | 0:17:51 | |
-Mae e rownd y gornel a diolch byth -bod fi ddim yn gorfod ffonio fe. | 0:17:51 | 0:17:55 | |
-Fi wnaeth gwrdd a Jams gyntaf -ar gwrs drama'r Urdd. | 0:18:04 | 0:18:08 | |
-Wnaethon ni ddim siarad am dridiau, -wedyn sylweddoli bod ni'n mwynhau... | 0:18:08 | 0:18:13 | |
-..bod yn anaeddfed, a ni wedi bod -yn gwneud hynna ers 30 mlynedd. | 0:18:13 | 0:18:18 | |
-Beth alla i ddweud am Jams Thomas? -Na, o ddifri beth alla i ddweud? | 0:18:18 | 0:18:24 | |
-Mae o'n ffrind da i fi a Dan. | 0:18:24 | 0:18:27 | |
-Fe yw'r unig berson -fi'n nabod o'r enw Jams. | 0:18:28 | 0:18:31 | |
-Roedd Dan a'i gyfoedion... | 0:18:37 | 0:18:39 | |
-..ar y pryd, o'n i ymysg nhw, -yn galw Math a'i gyfoedion... | 0:18:41 | 0:18:47 | |
-..Daf Palfrey, Ceri Gwynfryn -a chriw Hanner Pei, yn baldis... | 0:18:47 | 0:18:51 | |
-..oherwydd o'n nhw'n iau -ac yn methu tyfu barf. | 0:18:52 | 0:18:56 | |
-O'n i'n byw yn nhy Dan a Math -ar y pryd. | 0:18:58 | 0:19:01 | |
-Falle bod chi'n gwybod gwnaeth rieni -Math a Dan farw pan o'n nhw'n ifanc. | 0:19:01 | 0:19:06 | |
-A thrwy hynny, fi'n credu gwnaeth -Dan a Math ddysgu gwerth ffrindiau. | 0:19:06 | 0:19:12 | |
-Gwnaethon nhw ddysgu fi -beth yw gwerth ffrindiau. | 0:19:13 | 0:19:17 | |
-Ddim jyst pobl i gael laff 'da nhw, -o'n nhw'n gallu bod yn gefn i chi. | 0:19:17 | 0:19:22 | |
-Mae Dan a Math -wedi bod fel'na ers hynny. | 0:19:23 | 0:19:26 | |
-Ond ar y pryd -o'n i'n byw yn eu ty nhw. | 0:19:27 | 0:19:29 | |
-Daeth Math gartre wedi cael tattoo. | 0:19:30 | 0:19:32 | |
-Tattoo native American a rhyw saeth -- un bach ar ei gorff. | 0:19:33 | 0:19:37 | |
-Gofynnwch iddo fe. | 0:19:38 | 0:19:39 | |
-Fi a Dan yn mynd, "Wow! Mae un -o'r baldis wedi cael tattoo cyn ni." | 0:19:39 | 0:19:44 | |
-Gwnaeth Dan a fi ruthro mas a ges i -tattoo ar fy mraich o hydrogen atom. | 0:19:44 | 0:19:50 | |
-Bach yn soft falle! | 0:19:50 | 0:19:52 | |
-Roedd Dan yn waeth, -gewch chi ofyn am hwn... | 0:19:52 | 0:19:55 | |
-..gaeth e Winnie-the-Pooh -wedi tatwio fan'na! | 0:19:55 | 0:19:58 | |
-Un bach fel y lluniau gwreiddiol -yn llyfrau AA Milne. | 0:19:59 | 0:20:04 | |
-Roedd y ddau ohonon ni wedi cael -ein sbyrio 'mlaen i gael tattoo... | 0:20:04 | 0:20:09 | |
-..a'r ddau ohonon ni -wedi cael pethau bach pathetig. | 0:20:10 | 0:20:14 | |
-Ers hynny, mae 'da ni sleeves -dros ein cyrff. | 0:20:14 | 0:20:17 | |
-Ni'n ddynion go iawn! | 0:20:17 | 0:20:20 | |
-Math oedd y cyntaf i gael tattoo -yn y '90au... | 0:20:20 | 0:20:23 | |
-..pryd doedd plant -dosbarth canol ddim yn gwneud. | 0:20:24 | 0:20:27 | |
-Y brawd bach yn cychwyn -cyn y brawd mawr. | 0:20:28 | 0:20:31 | |
-Pwy sy'n cael y gair olaf -os oes 'na ddadl? | 0:20:31 | 0:20:34 | |
-Mae Math yn gallu siarad dros Gymru -am unrhyw bwnc. | 0:20:35 | 0:20:39 | |
-Ond mae Dan yn rhoi -put-downs uffernol o dda. | 0:20:40 | 0:20:43 | |
-Maen nhw on a par fan'na. | 0:20:43 | 0:20:45 | |
-Ond mae Dan yn y diwedd -yn cael y llinell 'shut up'. | 0:20:45 | 0:20:49 | |
-Yn gyflwynwyr, actorion, -perfformwyr, sgriptwyr, comediwyr... | 0:20:59 | 0:21:04 | |
-..lle dach chi arni erbyn heddiw? | 0:21:04 | 0:21:07 | |
-Ti'n gwybod beth ydy fy jobyn i? -Tad. | 0:21:07 | 0:21:11 | |
-Llawn amser! | 0:21:12 | 0:21:14 | |
-O'n i wastad eisiau bod yn gomediwr. | 0:21:15 | 0:21:18 | |
-Os ydy rhywun yn disgrifio fi fel -comediwr, mae'n gwneud fi'n hapus. | 0:21:18 | 0:21:23 | |
-Dw i o hyd yn meddwl yn fy ngyrfa... | 0:21:23 | 0:21:26 | |
-..bod rhywun yn mynd i ddweud, -"Ti ddim yn gwybod beth ti'n wneud." | 0:21:26 | 0:21:31 | |
-A bod rhywun yn deud, -"Ddylset ti ddim gwneud y job yma." | 0:21:33 | 0:21:38 | |
-Os wi'n gallu deud wrth rywun, -"Dw i'n sgwennwr," yna dw i'n hapus. | 0:21:40 | 0:21:45 | |
-Hanner awdur, sgriptiwr. | 0:21:46 | 0:21:48 | |
-Oes 'na gynlluniau i weithio -efo'ch gilydd yn y dyfodol? | 0:21:49 | 0:21:52 | |
-Ddim ar ol gwneud hwn. | 0:21:53 | 0:21:54 | |
-Mae e wedi atgoffa ni pam dan ni -ddim yn gweithio efo'n gilydd. | 0:21:55 | 0:21:59 | |
-Mae Math a fi wedi sgwennu nifer -o bethau, rhaglenni cyfrifiadurol... | 0:21:59 | 0:22:04 | |
-..rhaglenni comedi, stand-yp -efo'n gilydd, gwaith theatr. | 0:22:04 | 0:22:09 | |
-Fi ddim yn credu taw gwaith teledu -ydy'r ffordd ymlaen. | 0:22:09 | 0:22:13 | |
-Does dim lot o waith mas yna -neu basen ni'n dal i'w wneud e. | 0:22:13 | 0:22:18 | |
-Dyn ni wedi bod yn trafod. | 0:22:18 | 0:22:20 | |
-Achos dyn ni ddim wedi sgwennu efo'n -gilydd ers pedair, pum mlynedd. | 0:22:20 | 0:22:25 | |
-Wnaethon ni sgwennu efo'n gilydd -am mor hir, 12 mlynedd non-stop. | 0:22:26 | 0:22:31 | |
-Ni'n eitha mwynhau'r hiatus. | 0:22:32 | 0:22:34 | |
-Mewn ffordd mae 'na gyd-destun -gwahanol i ni. | 0:22:35 | 0:22:39 | |
-Pan o'n ni'n cwrdd am ginio dydd Sul -bydden ni'n mynd... | 0:22:39 | 0:22:43 | |
-.."Mae'r sgript yn gorfod bod -yn barod." | 0:22:43 | 0:22:46 | |
-Mae'n eitha neis -bod y cyd-destun yna wedi mynd nawr. | 0:22:46 | 0:22:50 | |
-Jyst malu awyr am ffilms -a gemau computers a comics. | 0:22:50 | 0:22:54 | |
-Y swmp o waith dyn ni wedi'i wneud, -fi'n browd iawn o'r swmp. | 0:22:57 | 0:23:01 | |
-Fi'n meddwl bod e'n anhygoel. | 0:23:01 | 0:23:03 | |
-Diolch o galon, -mae hi wedi bod yn bleser. | 0:23:04 | 0:23:07 | |
-Isdeitlwyd gan CAPSIWN ar gyfer S4C | 0:23:32 | 0:23:34 | |
-. | 0:23:34 | 0:23:34 |